Tudalen 1 o 1

poster 'Hon' THParryWilliams

PostioPostiwyd: Llun 05 Maw 2007 12:07 pm
gan cwrwgl
Dim yn siwr lle i bostio'r neges yma.
trio fama...

Dwi'n trio cael gafael ar gopi o'r poster o 'Hon' gan T.H. Parry Williams
a gynhyrchwyd yn y 70au hwyr/80au cynnar?

Oes gan unrhyw un gopi buasent yn fodlon ei werthu i mi? Di'r ots sut gyflwr. Neu syniad o lle fedra i gael un?

PostioPostiwyd: Maw 06 Maw 2007 3:12 pm
gan nicdafis
Y Cyngor Celfyddydau wnaeth ei gynhyrchu. Roedd y stoc i gyd yn siop Oriel, Caerdydd - wn i ddim beth ddigwyddodd ynddyn nhw ar ôl i'r CCC olchi eu dwylo o'r siop. Byddwn i'n meddwl taw cysylltu â'r siopau Cymraeg fyddai'r gorau, i weld os oes stoc ar ôl 'da nhw. Siop y Pethe, Aberystwyth yn arfer cadw stoc ohonyn nhw, er enghraifft.