gan Howard Huws » Iau 21 Meh 2007 10:40 am
Ydw, mi 'rydwi'n aelod o'r Eglwys Uniongred ers sawl blwyddyn. Bu gennyf ddiddordeb mewn materion ysbrydol erioed, hyd yn oed wedi imi gefnu ar Gristnogaeth (ac unrhyw grefydda ffurfiol) yn f'arddegau. Darllenais hynny fedrwn i am grefyddau eraill, am yr ocwlt, am ofergoeliaeth, anffyddiaeth, a phob -iaeth ac -istiaeth arall o fewn golwg. Roedd y cyfan yn porthi'r deall, ond dyna'r cwbl.
Eto, er crwydro a chwilio, yr oeddwn wastad yn dychwelyd at Gristnogaeth. Pan glywais fod offeren Uniongred i'w chynnal yn Nhremadog adeg Eisteddfod Genedlaethol 1987, penderfynais fynd draw i weld sut beth oedd. Chefais i ddim troedigaeth fawr yn y fan a'r lle, ond roeddwn i'n gwybod fy mod i wedi canfod yr hyn y bum yn chwilio amdano. Fel y mae rhywun, wrth deithio, yn mynd heibio i dro yn y ffordd neu goeden neu adeilad, ac yn gwybod ei fod wedi cyrraedd adref. Neu wedi bod mewn ystafell am gyfnod, ac yna y mae rhywun yn cynnau'r golau.
Dechreuais fynychu'r eglwys ym Mlaenau, a byth ers hynny bu fy nhaith yn bererindod hyd lwybrau Uniongrededd. Mae'n eang ac yn ddwfn, felly 'does yna ddim diwedd ar y darllen a'r sgyrsio a'r myfyrio, ac yn bwysicaf oll, y cyd-addoli. Trwy hynny y mae'r galon yn newid tonfedd, a bywyd rhywun yn ymaddasu at ffordd newydd o ddirnad bodolaeth. Fel un a fagwyd yn Anghydffurfiwr Cymraeg, rhaid imi ddewud bod Uniongrededd yn cynnwys elfennau eithaf anghyfarwydd imi, ar y dechrau: ond nid oedd yn fy nharo fel peth "dieithr", "estron". I'r gwrthwybeb: mae'n rhoi lle amlwg i saint Cymru, ac i'r diwylliant a'r traddodiadau a gadwyd gennym ers canrifoedd.
'Dwi'n fy holi fy hun weithiau, ai diddordeb yn yr "hanesyddol" sy'n peri fy mod i'n Uniongred? Neu hoffter o ganu soniarus ac eiconau disglair ac arol thus? Maent yn ddymunol, ond nid dyna graidd yr atyniad. Ceir hwnnw yn yr amgyffrediad bod rhywun yn sefyll ar drothwy Dirgelwch aruthrol, holl-gynhwysol. Allwn ni ond wynebu'r Goleuni, a gwyro tuag ato.