Mynachlog Groegaidd Caernarfon

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Mynachlog Groegaidd Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Sul 25 Maw 2007 9:05 am

Oes rhywun yn gwybod hanes Mynachlog Groegaidd Caernarfon, sydd i'w gyraedd trwy ddrws bach du o dan bont fach o furiau'r hen dref. Ydy'r lle yn dal i gael ei ddefnyddio? Welais i fawr o fynd a dod yna erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan huwwaters » Sul 25 Maw 2007 12:40 pm

Dwi'n cofio oedd y person nath neud y lle i fyny gael hi'r reit rhad.

Llwyddodd i gael ryw ffrind iddo yn ICI i roi'r paent iddo am ddim, fel rhodd, a chael bechgyn community service i baentio'r lle! :D
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Mynachlog Groegaidd Caernarfon

Postiogan Howard Huws » Gwe 01 Meh 2007 2:45 pm

Dyma'r sefyllfa. Ers sawl blwyddyn y mae yna ryw Sais sy'n byw tuag ochrau Carmel wedi penderfynu ei fod o'n offeiriad yn yr Eglwys Uniongred, ac yn ei alw'i hun "y Tad Demetrius". Tydi o ddim yn perthyn i unrhyw ran gydnabyddedig o'r Eglwys Uniongred, ond nid yw hynny'n ei atal rhag ceisio dynwared offeiriad.

Gwnaeth gais i Gyngor Caernarfon ('dwi'n credu) am gael defnyddio'r hen rinws yn Nhan y Bont fel "eglwys" neu gapel o ryw fath, a darfu i'r Cyngor ganiatau hynny. Yr honiad diweddaraf ganddo yw ei fod yn awr yn perthyn i'r "Syrian Orthodox Church". Ie, wel.

Ceir eglwysi Uniongred bona fide yng Nghymru ym Mlaenau Ffestiniog, Llanelli, Abertawe, a Chaerdydd. Os ydych a diddordeb mewn gweld sut beth yw eglwys Uniongred go iawn, rhowch ganiad i'r Tad Deiniol ym Mlaenau (01766 831272) neu cysylltwch a fi yn cyfarchiad@yahoo.co.uk .
Howard Huws
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Gwe 18 Mai 2007 6:53 pm
Lleoliad: Gwynedd

Postiogan Dili Minllyn » Mer 06 Meh 2007 10:02 am

Diolch am hwnna, Mr Huws. Mae gyda fi ddiddordeb ers tro yn yr Eglwysi Uniongred, a finnau wedi ymweld â sawl un o’u haddoldai yn y Dwyrain Canol – eglwys Uniongred Ethiopaidd Jerwsalem yw’r orau o bell ffordd, yn enwedig y llun yno o’r Crist Croenddu.

Dw i heb fentro dangos ’nhrwyn yn eglwys Roegaidd Caerdydd eto, ond efallai y dylwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Howard Huws » Mer 06 Meh 2007 9:54 pm

Ar bob cyfrif - 'tydyn'nhw ddim yn brathu!
Howard Huws
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Gwe 18 Mai 2007 6:53 pm
Lleoliad: Gwynedd

Postiogan Dylan » Gwe 08 Meh 2007 12:05 pm

ble'n union mae hwn? Dw i'n byw yng Nghaernarfon ers cyn cof a dyma'r cyntaf i mi glywed.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Howard Huws » Gwe 08 Meh 2007 7:06 pm

Wyddoch chi'r bont sy'n arwain o Stryd y Porth Mawr at yr hen Borth Mawr ei hun? Rhwng Wetherspoon's a'r waliau? Os ewch i lawr at sylfaen y bont, ar ochr Wetherspoon's, mi welwch chi ddrws a ffenestr, lle mae ystafell fechan. Yno oedd hen rinws Caernarfon, yn ol pob son, ac yno y mae'r "Tad Demetriws" wedi sefydlu "eglwys". Welais i neb ar gyfyl y lle erioed, a 'does gen i ddim diddordeb ynddo heblaw rhoi gwybod nad oes a wnelo "Demetriws" a'i eglwys ddim a'r Eglwys Uniongred.
Howard Huws
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Gwe 18 Mai 2007 6:53 pm
Lleoliad: Gwynedd

Postiogan Dili Minllyn » Maw 19 Meh 2007 8:30 am

Gan gymaint dy ddiddordeb yn y mater, wyt ti'n digwydd bod yn Gristion Uniongred dy hunan, Howard, os caf i ofyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan SerenSiwenna » Maw 19 Meh 2007 8:53 am

Ga'i jest ofyn beth yw'r crefydd uniongred? Sori i fod yn niwsans ond dwi heb di clywed amdanno :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 19 Meh 2007 9:29 am

Mae o'n hanes reit gymleth, ond oherwydd iaith a daearyddiaeth roedd yna ddatgysylltu rhwng Batriarchau dwyrian, Roegaidd ei hiaith, yr Ymerodraeth Rufeining (Caergystennin, Antioch, Jerusalem ac Alecsandria) a'r unig batriarch yn y gorllewin, Lladin ei hiaith, sef Pab Rhufain.

Oherwydd nifer o ffactorau, mae'r gwahaniaethau yn troi'n ffrae - un o'r pethau mawr ydi fod y Pab wedi rhoi cymal ychwanegol yn Ngredo Nicea ar orchymyn yr Ymerawdwr Charlemagne (y cymal "a'r Mab" yn y darn lle mae'r credo'n disgrifio cenhedlaeth yr Ysbryd Glan - fei gelwir hyn yn ddadl y "filioque") ac erbyn y flwyddyn 1000 mae'r ddwy garfan mwy neu lai yn gweld y llall fel petaent wedi cefnu ar y gwir ffydd. Daw hyn i'r pen yn 1054 pan mae'r Pab yn esgymuno Patriarch Caergystennin*, ac mae Patriarch Caergystennin yntau'n esgymuno'r Pab. Y mae'r eglwysi sy'n gweld eu hunain fel ran o draddodiad dwyrain yr ymerodraeth yn eu gweld fel yr Eglwyd Uniongred - "ortho" (cywir) + doxa (addodliad) - y rhai sy'n addoli'n gywir, fel petai.

* Mae'r dull y gwnaethpwyd hyn yn hileriys - aeth cennad y Pab i Gaergystennin, dilyn y Patriarch i fewn i eglwys Hagia Soffia yn ystod yr orymdaith ar ddechrau'r offeren, ac heb air gosod nodyn esgymuno ar yr allor - esgymuno trwy memo, fel petai.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron