PLEIDLEISIWCH DROS EICH HOFF GYNLLUN!
cyn y penwythnos!
http://www.landmarkwales.org/english/content.php?nID=49
Cynlllun Ann Catrin, Paul Beckett a Robin Evans di gora gin i. dyma dipyn o'r blyrb:
Castell Crawia – Llys Pengwern
Ann Catrin Evans, Paul Beckett, Robin Evans
Tim o Gymru sydd wedi cynllunio'r strwythur modern yma, sy’n symbylu Ystafell Cynddylan – Llys Pengwern.
Marwnad anhysbys yn y traddodiad barddol milwrol yw Canu Heledd o'r 9fed ganrif. Mae Heledd yn adrodd colled ei theulu, ei thad y tywysog Llywarch Hen or 6ed ganrif a’i 39 o feibion.
Roedd hi'n gerdd chwyldroadol yn ei chyfnod oherwydd ei bod wedi cael ei hysgrifennu o safbwynt merch, sy’n rhoi perspectif bersonol iawn i'r hanes.
Y gerdd yma yw’r ysbrydolaeth i'r cerflun. Rydyn eisiau creu cerflun i glodfori Ystafell Cynddylan a'r negeseuon ynghlwm a'r gerdd, sef dewrdra, llwfdra a ffawd - sy'n rheoli dyn o'r crud i’r bedd.
Defnyddiwyd syniad y clawdd traddodiadol ‘Crawia’ fel sylfaen i'r cynllun, i greu’r gaer ar y bryn cyfoes yma i gynrychioli Llys Pengwern.
Bydd pob haen yn ddur ddi-staen gydag englyn wedi ysgythru ar ei wyneb, a thair lefel o gylchoedd i ddringo fydd yn creu llwyfan edrych ar ei ben i fwynhau’r olygfa o Ystafell Cynddylan a myfyrio ar eiriau Heledd.