Pledleisiwch RWANAWR! Cynllun Castell Crawiau Llys Pengwern

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Pledleisiwch RWANAWR! Cynllun Castell Crawiau Llys Pengwern

Postiogan Jeni Wine » Iau 26 Ebr 2007 10:53 am

PLEIDLEISIWCH DROS EICH HOFF GYNLLUN!
cyn y penwythnos!

http://www.landmarkwales.org/english/content.php?nID=49

Cynlllun Ann Catrin, Paul Beckett a Robin Evans di gora gin i. dyma dipyn o'r blyrb:

Castell Crawia – Llys Pengwern
Ann Catrin Evans, Paul Beckett, Robin Evans

Tim o Gymru sydd wedi cynllunio'r strwythur modern yma, sy’n symbylu Ystafell Cynddylan – Llys Pengwern.

Marwnad anhysbys yn y traddodiad barddol milwrol yw Canu Heledd o'r 9fed ganrif. Mae Heledd yn adrodd colled ei theulu, ei thad y tywysog Llywarch Hen or 6ed ganrif a’i 39 o feibion.

Roedd hi'n gerdd chwyldroadol yn ei chyfnod oherwydd ei bod wedi cael ei hysgrifennu o safbwynt merch, sy’n rhoi perspectif bersonol iawn i'r hanes.

Y gerdd yma yw’r ysbrydolaeth i'r cerflun. Rydyn eisiau creu cerflun i glodfori Ystafell Cynddylan a'r negeseuon ynghlwm a'r gerdd, sef dewrdra, llwfdra a ffawd - sy'n rheoli dyn o'r crud i’r bedd.

Defnyddiwyd syniad y clawdd traddodiadol ‘Crawia’ fel sylfaen i'r cynllun, i greu’r gaer ar y bryn cyfoes yma i gynrychioli Llys Pengwern.

Bydd pob haen yn ddur ddi-staen gydag englyn wedi ysgythru ar ei wyneb, a thair lefel o gylchoedd i ddringo fydd yn creu llwyfan edrych ar ei ben i fwynhau’r olygfa o Ystafell Cynddylan a myfyrio ar eiriau Heledd.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan Gwen » Iau 26 Ebr 2007 1:44 pm

Neu, yn Gymraeg: http://www.landmarkwales.org/cymraeg/content.php?nID=49

Ddois i ddim o hyd i fanylion am y gwahanol gynlluniau chwaith. Lle roedd rheini?
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Tegwared ap Seion » Iau 26 Ebr 2007 2:24 pm

Yn y ddewislen ar y chwith :)
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron