Arianrhod

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Arianrhod

Postiogan SerenSiwenna » Llun 14 Mai 2007 9:11 am

Wedi bod yn meddwl yn ddiweddar y byswn i yn hoffi dysgu fwy am crefydd a diwylliant y Cymru cyn iddyn nhw cael ei droi yn cristnogion ac, gan nad oedd llawer o syniad gen i lle i ddechrau, dechreuais i gwglio Arianrhod gan fy mod i yn cofio ei henw hi o Hedd Wyn (y ffilm).

O be dwi di ddarllen roedd hi yn ddywies celtaidd ond yr unig son sydd arol amdanni yw hynny sydd yn y Mabinogi (hi yw mam lleu llaw gyffes). O ni yn sidro os oedd unrhywun yn gwybod am llyfrau y gellir ei prynnu sydd a fwy o wybodaeth am Arianrhod neu ddywiau eraill y celtiaid, neu rhywbeth sy'n son am y crefydd i gyd.

Hefyd, wedi penderfynnu bod fi eisiau prynnu'r ffilm "Hedd Wyn" ond dim ond VHS oedd ar gael (a hynny yn anodd ei phrynnu) oes modd prynnu'r DVD o rhywle? 8)
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Gwen » Llun 14 Mai 2007 9:24 am

Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Griff-Waunfach » Llun 14 Mai 2007 9:49 am

Nad oedd Cernunnos yn dduw ar anifeiliaid? Mae yna rhai llyfrau da am y Celtiaid gyda darnau ar eu crefydd.

Tarannos oedd duw yr awyr neu tarannau ?(dyna le daeth y gair o am wn i) sai'n siw os dwi wedi sillfau fe'n iawn.

Beli roedd hwnnw yn dduw yr haul (dwi'n meddwl)
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwen » Llun 14 Mai 2007 10:54 am

Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan huwwaters » Llun 14 Mai 2007 11:19 am

Y gwefan pantheon o hyd wedi bod o gymorth i mi.

http://www.pantheon.org/areas/mythology/europe/celtic/articles.html
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Manon » Llun 14 Mai 2007 11:37 am

Gwen a ddywedodd:Rhestr yn cynnwys rhai ohonynt.

Gwenn Teir Bronn

:?


Hihi... Ti'n cofio Mrs Barnes, ein hathrawes cello deirfronnog? :D
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Gwen » Llun 14 Mai 2007 11:37 am

Manon a ddywedodd:
Gwen a ddywedodd:Rhestr yn cynnwys rhai ohonynt.

Gwenn Teir Bronn

:?


Hihi... Ti'n cofio Mrs Barnes, ein hathrawes cello deirfronnog? :D


Yn iawn!
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan serentywi » Llun 14 Mai 2007 11:44 am

Duwies y nos oedd Arianrhod - merch y ddewines Don, chwaer i Gwydion y dewin a mam Dylan (duw'r môr) a Lleu. Roedd Arianrhod yn amlwg yn llys ei hewythr Math (Math fab Mathonwy). Roedd Amaethon a Gofannon yn frodyr iddi. Mae'r cyfan yn ddiddorol iawn.

Mewn mytholeg Geltaidd dwi'n credu mai hi oedd y lleuad. Caer Arianrhod yw'r Milky Way.

Mae Miranada Green wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar y duwiesau Celtaidd yn Saesneg, mae digon i gael yn y Gymraeg mwy na thebyg. Lot fawr o bethau ar Wikipedia.
serentywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 16 Chw 2007 10:03 am
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan SerenSiwenna » Llun 14 Mai 2007 4:14 pm

Mewn mytholeg Geltaidd dwi'n credu mai hi oedd y lleuad. Caer Arianrhod yw'r Milky Way.


O! ie, o be dwi di ddarllen "arian" = silver "rhod" wheel neu disc a dwi'n cofio yn y ffilm roedd Huw Garmon yn edrych ar y lleuad pan yn siarad am Arianrhod. Ond doeddwn i ddim yn ymwybodol mai'r milk way oedd Caer Arianrhod :D

Oes 'na gyrsiau nos neu hyd ynoed modiwlau yn unman lle mae modd astudio'r chwedlau yn ffurfiol? Neu lyfr 'difinitive'?

Oes yna pobl sy'n dilyn ac yn credu yn y duwion ar crefydd yma?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan sian » Llun 14 Mai 2007 4:21 pm

Hefyd, yn ôl Wicipedia:
Mae Caer Arianrhod yn ynys fechan greigiog oddi ar arfordir Gwynedd, tua hanner y ffordd rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle a thua 1 km o'r lan. Y cyfeiriad OS yw SH431545.

Mae'r cytser Corona Borealis hefyd yn dwyn yr enw "Caer Arianrhod" yn Gymraeg.


Yn ôl y Briws, mae sawl enw Cymraeg ar y Milky Way:
y Llwybr Llaethog, Bwa'r Gwynt, Heol y Gwynt, Llwybr y Gwynt, y Ffordd Laethog, y Ffordd Wen, y Ffordd Laethwen, Caer Gwydion a Caer Arianrhod.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron