Wyt rhwng 18 a 30 oed a ffansi ymuno a chriw o bobl ifanc o’r un oed a thi o Iwerddon a Chymru AM DDIM?
Mae cynllun newydd yr Urdd - Bendigeidfran yn trefnu taith sy'n cychwyn ar D.Gwener y 1af ac yn gorffen D.Sul yr 3ydd o Fehefin 07 ac mae croeso i ti ymuno efo ni AM DDIM am y daith cyfan neu jyst am y diwrnod!
Mi fyddi di’n derbyn llety, bwyd (dydd a nos), mynychu gweithgareddau gan gynnwys tocynnau i Faes yr Eisteddfod (dau ddiwrnod) ac i’r gig Nos Wener a Sadwrn efo Sibrydion am ddim
Nid yw'n broblem os wyt yn cystadlu yn yr Steddfod gan y byddwn yn gweithio o gwmpas eich amserlen chi yn ogystal.
Er mwyn sicrhau dy le cysyllta efo Nia heddiw ar:
07976003307 / 01678 541008 / nia@urdd.org