dIM LOL 07

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan DAN JERUS » Mer 15 Awst 2007 2:08 pm

Ges i gryn sioc o ddarllen ei golofn- o ni'n meddwl fod y cont 'di marw ers 2003! 'sgwn i lle clywodd o'r sylwadau go iawn? ro'i £10 ar onset dementia. do i hear £20? 8)
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Mer 15 Awst 2007 2:14 pm

Dim hiwmor
Dim sgwp
Dim cynildeb,
Dim gwreiddioldeb
Dim dyfodol.


Pfff, roedden nhw'n dweud hynny nol yn '65.

Mond angen 'rebrand' mae'r hen Lol. Beth am alw fo'n LO/L?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 16 Awst 2007 8:38 pm

Mi ddaeth y pecyn o Deutschland Uber Gwales heddiw, ac wedi ei agor setlish i lawr ac enjoyo - stwff yn gwneud i fi chwerthin yn uchel.

Yna sywlish i mod i'n darllen y nodiadau astudio'r Beibl ro'n i wedi archebu, ac roedd dim lol dal yn yr amlen.

Hwnnw reit dda, am wn i - darnau arbenning o dda wedi'u sgwennu gen i (er fod rhyw fasdad wedi dewis ychwanegu rhyw bwt agoriadol efo jocs ynddo fo at un ohonyn - blydi hel, Ray, dwi'n trio addysgu'r gwehilion o boblach ma, ac i gyd ti'n wneud ydi gwneud hwyl am ben bob peth. Fasan dda gen i petai ti'n cymryd sylw o newyddiadurwyr pen i gamp megis Mr Gwilym Owen, sydd efo'i fys ar byls ieuenctid Cymru.)

Roedd tudalen 21 yn hynod o ddiddorol.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re:

Postiogan Prysor » Llun 21 Ion 2008 11:24 am

Dafydd Iwanynyglaw a ddywedodd:....er fod rhyw fasdad wedi dewis ychwanegu rhyw bwt agoriadol efo jocs ynddo fo at un ohonyn....


Ia, Ray! A'r pwt agoriadol sgwennisd di i'r detholiad o Madarch! Dan ni'n gyfarwydd â sbin y dyddia yma, ond mae dweud fy mod wedi cynnig darn o Brithyll i dimLol y flwyddyn gynt, a'ch bod wedi gwrthod, yn dra gwahanol i'r hyn ddigwyddodd go iawn - sef chi'n gofyn a finna'n gwrthod!

Ffycin gutter press myn diawl! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai