Shwd ydech chi, faeswyr annwyl?
Achos bo fi 'di bod yn rhy brysur yn cael fy nympio yn ddiweddar, gan dreulio'r rhan fwyaf o'r mis d'wethaf yn yr un par o bans, yn gadel y gwely dim ond pan oedd angen cachad ac yn bwyta bîns allan o dun (ond newid i sbageti hwps pan on i mo'yn treat), dim ond nawr dwi'n sylwi bo fi'n druenus o bell tu ol 'da'r gwaith o neud dIM LOL. Ffyyyyyyyyyc!
Felly gyfeillion, dyrwch i mi eich cyfraniadau'n gloi! Byddai'n talu am unrhyw gyfraniad sydd werth e... felly dewch yn llu! W, a gan bo ni di ca'l ein cyhuddo o fod yn sexist ac yn anti-gog y llynedd wy'n edrych am birds a northern monkeys i gyfrannu'n enwedig. Gwd thing.
dimloldimsaith@yahoo.co.uk
ps - po leiaf eich cyfraniadau, po fwyaf y bydd rhaid i fi cut n paste-o oddi ar flog Rhys Llwyd. A sneb moyn hynna.
pps - os nagych chi am gyfrannu, pidwch gadel neges... ma trafodaethau am libel a'r gyfraith yn hynod ddiflas a dwi eisoes yn gwbod bod rhifyn llynedd yn shite. ffanciw!