Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Llun 25 Meh 2007 10:04 am
gan Macsen
Hm, swn i'n dweud mai Bwp melyn yw hyn...

Bwp Gwyrdd - Atgoffa o ryw fan fanylyn
Bwp Glas - Bwp llymach i dynnu sylw at reol neu ddigwyddiad pwysig (un o reolau'r Maes, protest CyI, gig, ayyb)
Bwp Melyn - Nodyn atgoffa bod dyddiad cau pwysig ar y ffordd (Dim Lol bron a mynd i'r wasg, ee)
Bwp Oren - Materion cyfreithiol (trafodaeth enllibus sy'n bygwth parhad y maes, yr iaith, a chymru ayyb)
Bwp Coch - Ymosodiad Terfysgol yn Fuan

PostioPostiwyd: Llun 25 Meh 2007 10:21 am
gan Ray Diota
Macsen a ddywedodd:Hm, swn i'n dweud mai Bwp melyn yw hyn...

Bwp Gwyrdd - Atgoffa o ryw fan fanylyn
Bwp Glas - Bwp llymach i dynnu sylw at reol neu ddigwyddiad pwysig (un o reolau'r Maes, protest CyI, gig, ayyb)
Bwp Melyn - Nodyn atgoffa bod dyddiad cau pwysig ar y ffordd (Dim Lol bron a mynd i'r wasg, ee)
Bwp Oren - Materion cyfreithiol (trafodaeth enllibus sy'n bygwth parhad y maes, yr iaith, a chymru ayyb)
Bwp Coch - Ymosodiad Terfysgol yn Fuan


Creda di fi... ma hwn yn fwp coch! :winc:

A gaw ni ddefnyddio cyfraniad Macsen uchod fel y bwp rulebook o hyn allan te?

Dwi'n mynnu, fodd bynnag bo fi angen mwy na Bwp Melyn yn y sefyllfa 'ma, so:

BWP

PostioPostiwyd: Llun 25 Meh 2007 11:30 am
gan SbecsPeledrX
wel ti'n iawn, mae Dim LOL yn siwr o cynnwys peth trafodaeth enllibus.

Ynghyd a knob gag neu ddau.

PostioPostiwyd: Llun 25 Meh 2007 11:42 am
gan Clebryn
Erbyn pryd ti ishe cyfraniadau?

PostioPostiwyd: Llun 25 Meh 2007 12:26 pm
gan Ray Diota
SbecsPeledrX a ddywedodd:
Ynghyd a knob gag neu ddau.


neu ugen... :wps:

Erbyn pryd ti ishe cyfraniadau?


diwedd yr wthnos :ofn: ... ffac it, dydd llun nesa' :)

PostioPostiwyd: Maw 26 Meh 2007 10:27 am
gan Ray Diota
Cwpwl o bethe di dod mewn ar ol i fi fwpio'n oren, dal yn edrych am Y STORI FOCHEDD, cofiwch...

anfonwch unrhywbeth - os yw e'n shite, dim ond fi fydd yn gwbod ta beth!

ewn ni lawr i fwp glas heddi, wy'n meddwl:

BWP

dimloldimsaith@yahoo.co.uk

PostioPostiwyd: Mer 27 Meh 2007 3:34 pm
gan Ray Diota
Pethe'n dechre siapo ers i fi actio bron mor despret a Cheeky Girl mas ar y pwl yn y Drenewydd... OND WY DAL MOYN MWY, Y JAWLED TAWEL A CHI!

so...

BWP

PostioPostiwyd: Llun 02 Gor 2007 3:31 pm
gan Ray Diota
newydd benderfynnu bo fi jyst ffaelu defnyddio un peth ddath mewn yn ddiweddar... er gymaint fydden i 'di joio :lol:

so 'na fi di colli rhwbeth blasus.... sy'n mynd a ni nôl at sefyllfa o argyfwng:

BWWWWWWWWP!

PostioPostiwyd: Maw 14 Awst 2007 4:35 pm
gan Mihangel Macintosh
Llongyfarchiadau i'r criw ffiadd.

Nes i fwynhau Dim Lol yn fawr iawn eleni - nes i werthin mas yn uchel sawl gwaith.

Da iawn!

PostioPostiwyd: Mer 15 Awst 2007 8:48 am
gan Ray Diota
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Llongyfarchiadau i'r criw ffiadd.

Nes i fwynhau Dim Lol yn fawr iawn eleni - nes i werthin mas yn uchel sawl gwaith.

Da iawn!


Jolch ti! Cofia di, ma pawb yn deall bo ti'm yn gwbod dim byd am ddiwylliant y Gymru gyfoes, Mihangel...

http://www.bbc.co.uk/cymru/eisteddfod/s ... ener.shtml

Yn gynta, ga'i gyfeirio cyfeillion Gwilym at y frawddeg gyntaf yn y golofn olygyddol.

Yn ail, sylwch nad yw Gwil, ei hun, yn dilorni dim lol... fel wedodd e wrtho fi:

"Sgy... sgy... sgynoch chi ddeipar sbâr, nyrs? Dwi di neud mes yn 'y nhrôns eto wchi... Hei, weloch chi dim lol leni?... 'Dyna beth oedd ffocin magasîn, de? Fi wnaeth o, wchi... fi ag Angie Mary o Tiniopolîs de..."

Yn drydydd, hoffen i wahodd pawb i'r New Ely yng Nghaerdydd ar gyfer parti ymddeoliad Gwilym Owen ar y 3ydd o Fawrth 1977. Diolch.