Braf ar y bobl rheiny sy'n medru gwario pres pobl eraill heb owns (neu gram!) o gydwybod! Os cofiaf yn iawn y bwriad gwreiddiol wrth godi Theatr Gwynedd oedd y ffaith mae'r rhan cyntaf yn unig oedd o theatr o ganolfan fwy o lawer. Oes wir angen dymchwel brics a mortar i ehangu ar y ddarpariaeth bresennol ar gyfer y ddrama ym Mangor a'r cyffiniau? Y brifysgol sydd bia' Theatr Gwynedd ond a yw'r BRIF-YSGOL wedi cadw a meithrin ei hadran ddrama?
Tybed beth fyddai'r perfformiadau mwya' cofiadwy a welwyd ar lwyfan Theatr Gwynedd ym marn selogion maes-e?
Mi gynigia' i :
Springs' Awakening (Wedekind - gan fyfyrwyr Adran Ddrama'r Brif-Ysgol)
Ac Eto Nid Myfi -John Gwilym Jones gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg y Coleg
Perfformiad Iwcs o'r Bryddest "Awelon" Aled J Williams - gwefreiddiol.