Dymchwel Theatr Gwynedd?

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Dymchwel Theatr Gwynedd?

Postiogan Iago2 » Mer 30 Mai 2007 7:24 pm

Braf ar y bobl rheiny sy'n medru gwario pres pobl eraill heb owns (neu gram!) o gydwybod! Os cofiaf yn iawn y bwriad gwreiddiol wrth godi Theatr Gwynedd oedd y ffaith mae'r rhan cyntaf yn unig oedd o theatr o ganolfan fwy o lawer. Oes wir angen dymchwel brics a mortar i ehangu ar y ddarpariaeth bresennol ar gyfer y ddrama ym Mangor a'r cyffiniau? Y brifysgol sydd bia' Theatr Gwynedd ond a yw'r BRIF-YSGOL wedi cadw a meithrin ei hadran ddrama?
Tybed beth fyddai'r perfformiadau mwya' cofiadwy a welwyd ar lwyfan Theatr Gwynedd ym marn selogion maes-e?
Mi gynigia' i :
Springs' Awakening (Wedekind - gan fyfyrwyr Adran Ddrama'r Brif-Ysgol)
Ac Eto Nid Myfi -John Gwilym Jones gan Gymdeithas Ddrama Gymraeg y Coleg
Perfformiad Iwcs o'r Bryddest "Awelon" Aled J Williams - gwefreiddiol.
Iago2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:57 pm
Lleoliad: Cardi ar goll yn y Gog

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 30 Mai 2007 7:28 pm

Adeilad ffycin hyll o'r saithdegau!

Ma ardal y bar yn afiach hefyd - dim cymeriad o gwbwl.

Mi oedd y lle yn condemed yn eithaf diweddar achos oedd na asbestos yn y waliau mae'n debyg. Rheswm da i'w ddymchwel fydde ni'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Dymchwel Theatr Gwynedd

Postiogan Iago2 » Mer 30 Mai 2007 7:56 pm

Hyll - fel llawr o adeiladau y chwedegau a'r saithdegau.
Asbestos - problem enfawr debyg iawn. Gyda llaw ni chlywais yr un cyfeiriad at y broblem asbestos ar newyddion chwech.
Ond oes angen ei ddymchwel er mwyn ateb y broblem? O ble mae'r arian i ddod?
A beth yn dy farn di MM yw'r perfformiadau mwya' cofiadwy a welwyd ar lwyfan Th. Gwynedd?
Iago2
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 38
Ymunwyd: Mer 10 Rhag 2003 7:57 pm
Lleoliad: Cardi ar goll yn y Gog

Postiogan Geraint » Mer 30 Mai 2007 8:45 pm

Be sy'n digwydd? Cael ei ddymchwel, ac un newydd yn cael ei adeiladu? Yn yr un lle?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan jammyjames60 » Mer 30 Mai 2007 9:40 pm

Gret, bydd rhaid ini fynd yr holl ffor' i Landudno felly i weld 'wbath, er, yn hynny o beth, mae Venue Cymru yn le gwych, a Chymraeg ym mhobman.
Rhithffurf defnyddiwr
jammyjames60
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 681
Ymunwyd: Llun 07 Tach 2005 11:19 pm
Lleoliad: Felinheli, Gogledd Cymru

Postiogan Manon » Iau 31 Mai 2007 9:32 am

'Dwi'n ama' bod Th.G. yn colli lot o fusnes i Galeri. 'Dwi'n gwybod bod bwriad i gael canolfan i'r celfyddydau perfformio ar y cyd rhwng ThG a'r Brifysgol- Ond toes na ddim wedi ei benderfynu eto, o be 'dwi'n ddallt.

Mae'n raid i ThG sortio allan yr air con- 'dwi 'di bod yna pan mae'r lle yn llawn ac roedd o'n hollol anioddefol (ar un noson, nath 'na ryw foi golapsho o'r herwydd). Un peth arall oedd yn reit anoing oedd pan es i i weld perfformiad gan fyfyrwyr Coleg Menai yn ddiweddar- Roedd y lle yn llawn teulu balch, ac roedd staff ThG yn amharu ar y perfformiad er mwyn rhwystro pobol rhag tynnu llunia (cerdded reit o flaen y llwyfan, gweiddi "don't do that!" ar rieni efo camcorders ayyb) 'Dwi'n dallt bo pobol ddim i fod i dynnu llunia (er, mewn perfformiad fel 'na, 'dwi ddim rili'n gweld y broblem chwaith- Roedd staff ThG yn lot mwy distracting na fflachiadau camera) ond cym on de!

Ar y llaw arall, mae'r ffilmaiu ma' nhw'n dangos yn ThG yn dda ac yn ddiddorol rhan fwya', ac mae dymchwel y Plaza yn gneud fi feddwl alla y dylia' ThG feddwl mwy am ffilmiau wrth gynllunio adeilad newydd.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron