Wel dwi'n symud i'r de. Yn erbyn pob dim sy'n gall, ac i ganol y red necks hefyd. So fel bod gen i rhywbeth amgenach i neud na clwb rallio, clwb ffermwyr ifanc a deckio hoywon dwi am fynd ati i drefnu clwb Comedi. Stand yp like, ond beth bynnag chi ffansi rili.
Os dech chi ishio clywed jocs, deud jocs, sgwennu jocs whatever - danfonwch Neges Breifat. Ma gyda ni lleoliad, a PA a dwi'n meddwl am godi £5 y noson efo gwin am ddim - ond cawn weld beth mae pawb arall eisiau ei neud. Bydd cyfle i chi ymarfer act eich hunain os dech chi ffansi, ond mae croeso i bobl jest ddwad draw i meddwi a clywed jocs bobl erill.
Tua unwaith y mis?
Os nad ydi hwn yn gweithio - bydd rhaid i mi ddechrau partion swingers. A dwi'n hynod hyll heb fy nillad - so your call bobl Llandysul. Besides - pwy sydd angen gweld Cigydd Aberteifi yn noeth eto hefyd?