Clwb Comedi Llandysul

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 01 Meh 2007 11:23 am

Manon a ddywedodd:Waaaaaw big move! pob lwc i chi. Ti yn sylweddoli ddo, y bydd Mari yn deud "becso" a "shwmai" a "ffrimpan" a'r geiria Pobol y Cwm yma i gyd? 8)


Be sy'n bod efo s'mae a ffrimpan?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 01 Meh 2007 12:43 pm

Manon a ddywedodd:Waaaaaw big move! pob lwc i chi. Ti yn sylweddoli ddo, y bydd Mari yn deud "becso" a "shwmai" a "ffrimpan" a'r geiria Pobol y Cwm yma i gyd? 8)


Ers pryd mae Llandysul yn ardal Pobol y Cwm sbo :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 01 Meh 2007 12:54 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:Waaaaaw big move! pob lwc i chi. Ti yn sylweddoli ddo, y bydd Mari yn deud "becso" a "shwmai" a "ffrimpan" a'r geiria Pobol y Cwm yma i gyd? 8)


Be sy'n bod efo s'mae a ffrimpan?


O ia wrth gwrs, padell ffrio. Iesu mae llinos yn ddylanwad drwg arnai ma rhaid!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Manon » Gwe 01 Meh 2007 3:32 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:
SbecsPeledrX a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:Waaaaaw big move! pob lwc i chi. Ti yn sylweddoli ddo, y bydd Mari yn deud "becso" a "shwmai" a "ffrimpan" a'r geiria Pobol y Cwm yma i gyd? 8)


Be sy'n bod efo s'mae a ffrimpan?


O ia wrth gwrs, padell ffrio. Iesu mae llinos yn ddylanwad drwg arnai ma rhaid!


Ew, da'r hogan, Llinos! Mae fy ngwr i'n dal i ddeud ffrimpan a ballu ac mae o yn y Gogledd ers dros ddegawd! (er, nath o ddeud "sdi" dipyn yn ol, oedd yn achos dathliad mawr!)
Edrych ymlaen i weld Sbecs, Llinos a'r fechan mewn ryw flwyddyn a Sbecs yn deud "shwmai de? Drych ar Mari, nagyw hi'r groten berta' ochr 'yn i Lanarthur?" :lol:
Dyliwn i fod yn 'sgwennu i Pobol y Cwm
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Sad 02 Meh 2007 12:24 pm

Nage Mari ni nath e, w.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 30 Meh 2007 1:29 pm

Neis i weld pobl yn mentro. Byddaf yn siwr o gefnogi'r achos. Ond cofia, Sbecs - mae Llandysul yn gymuned anodd iawwwwwn i gracio. Bues i'n gwneud lot fawr o waith cymunedol yna, ac ychydig o frwdfrydedd a diolchgarwch sy'n bodoli yno.

Yn eironig ddigon, y pobol ddwad (o Loegr) sydd wir yn tanio ysbryd yr ardal. Y clwb ceufad, clwb ieuenctid, cadw Neuadd Tysul ar agor, Sgowtiaid, Llandysul Youth Volunteers, WI - â'r rhestr yn ei blaen.

O ran y pethe Cymraeg - wel, mae diwylliant pêl-droed cyfrwng Cymraeg cryf yno, ynghyd â phethau mwy hambonaidd fel y ralïo, CFFI ayb. Mae'r Cylch cinio wedi hen farw erbyn hyn (o beth dwi'n gwybod) ond mae Merched Y Wawr a Merched Glannau Teifi yn dal i fynd yn ôl y sôn.

Os wyt ti am gefnogaeth ariannol i'th fenter, cysyllta ag Ann yn swyddfa Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen ar Heol Newydd. Bydd hi'n hapus i dy helpu, ac mae hi'n gwybod cystal ag unrhyw un bod well gan bobl Cymraeg yr ardal weld pethau'n pydru o'u cwmpas a chwyno am y peth yn hytrach na gweithredu eu hunain.

Ond paid ffwdanu gyda'r Ysgol Uwchradd - dyw'r athrawon yno ddim eisiau unrhyw beth i wneud gyda bywyd y pentref. Take it from me.

Pob lwc!

JBJ
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 01 Gor 2007 12:24 pm

Diolch Boi. Welai di yna gobeithio.

Mae'r noson gyntaf am fod yn stafell fach y cilgwyn, nos Wener ym mis Awst. Wedyn byddai'n trio ei neud yn noson fisol. £2.50 fydd hi rwan, a dim gwin am ddim.

Manylion i ddilyn ar ol i'r acts gadarnhau.

Cawn weld beth fydd y turnout. Cymru cymraeg di bod yn deud wrthai i beidio a bothran, sneb byth yn mynd i nosweithie Cymraeg. Heblaw y nhw wrth gwrs, pawb yn deud fod o'n swnio'n dda a'u bod am ddwad. Ar peth da am fod mewn tafarn ar nos wener ydi - lase bod chydig o dorf jest o'r yfwrs arferol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron