Ond, os oes cyfle i drosglwyddo hen gapeli i berchnogaeth cymunedol yna dylid ymdrechu i wneud hynny.
Cytuno'n llwyr â ti os oes posib ond...lot fawr o'r trefi/pentrefi mawr yn y pen yma lle mae capeli yn/wedi cau achos bod cymaint ohonyn nhw yn yr un ardal ( a mond llond het yn mynychu a.y.b.) hefyd yn frith o adeiladau cymunedol/ neuaddau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Fel dydis di mond os oes cyfle gwirioneddol i wneud dylid gwneud hynny neu'r unig beth ti'n neud ydi gosod maen newydd ar yddfe'r un bobl.
Wedi deud hynny mae yna engraifft wych o lle mae hyn wedi gweithio yn Brithdir ger Dolgelle. Mi oedd sôn am gau'r capel a'r bobl lleol ddim am golli eu treftadaeth/etifeddiaeth yn llwyr felly fe aed ati i edrych ar y posibiliadau. Daeth yn amlwg bod ddirfawr angen meithrinfa yn yr ardal a Bob yw d'ewythr ganed meithrinfa gymunedol Seren Fach. ( Bosib nad oedd o cweit mor hawdd â hynny - mi fuon nhw wrthi am flynyddoedd yn paratoi ceisiadau grant ac ati cyn medru dechre ar ail-wneud yr adeilad, penodi staff, marchnata'r gwasanaeth a.y.b).
Beth bynnag yn yr achos yma mae pawb yn hapus - gwasanaeth gwerthfawr iawn yn cael ei gynnig mewn hen gapel a fyddai fel arall mae'n debyg wedi ei werthu i does wybod pwy i greu ty annedd.