Y mae un o gapeli Cymraeg hynaf cwm Cynon dan beryg gan ddatblygwyr preifat. Fel pob capel yng Nghymru mae capel Nebo yn Hirwaun, Aberdâr, mewn cyflwr gwael, ond er i’r adeilad rhestredig dderbyn cynigion am grantiau enfawr gan fudiadau megis y loteri y mae ymddiriedolaeth y capel yn gwrthod eu derbyn.
Y mae dyddiad y gwasanaeth olaf wedi'i gadw'n gyfrinach ymysg aelodau'r ymddiriedolaeth... dydy'r gynulleidfa fechan hyd yn oed heb gael wybod! Ond er hynny mae unigolion hunanol bellach wedi dewis elwa o'r dirywiad trwy dynnu llechu’r to a’r llwybrau.
Medd rhai mai’r bwriad ar ôl gwerthu Nebo a’i fynwent yw symud y gwasanaethau i adeilad cyfagos ac ail-fuddsoddi’r arian a enillir. A fyddai’n ddrwgdybiaeth deg feddwl y bydd rhywrai sydd ynghlwm â’r penderfyniad hwn yn elwa’n ariannol yn y pendraw? Yn amlwg ni all capeli ddenu cymaint o bobl bellach, ond a ydy hynny’n rhoi caniatâd i grŵp bach o bobl wrthod cenedlaethau’r dyfodol rhag etifeddu adeilad nad ydyw ond yn ddiwylliannol bwysig ond yn ieithyddol bwysig hefyd?