Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
Madrwyddygryf a ddywedodd: Dwi wedi dysgu fy hyn bod y bobl sydd yn feirniadwyr yn chwilio am defnydd iaith a chywirdeb iaith yn fwy na stori gwreiddiol gyda syniadau unigryw.
SerenSiwenna a ddywedodd:Gyda llaw, o profiad chi'r maeswyr, pa eisteddfodau lleol sydd hefo adran llenyddiaeth ag sy'n digon bodlon i bobol ddi-lleol cymryd rhan?
[/quote]Os gwnei di anfon amlen â dy gyfeiriad a stamp arni, mae'r rhan fwya'n anfon dy stwff di a'r feirniadaeth yn ôl atat ti. Mae hynny'n gallu bod yn werthfawr.
A hyd yn oed os oes rhywun yn sbio lawr arnat am nad wyt ti'n lleol, wel wfft iddyn nhw.
Cacamwri a ddywedodd:
Llansannan di'r gore dwi di bod fi'n credu - tlws yr ifanc ddwy waith a chadair oedolion unwaith. Croeso mawr, a chael aros mewn hen fuarth yr Ysgrifenyddes am ei bod hi'n teimlo trueni drosta i a fy nheulu gan bo ni di teithio mor bell!
Mynytho'n ail agos achos y te ar ol hynny.
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai