Cystadlu ysgrifennu ar gyfer eisteddfodau lleol

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Cystadlu ysgrifennu ar gyfer eisteddfodau lleol

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 09 Gor 2007 10:49 pm

Dwi'n awyddus i gychwyn cystadlu mewn cystadlaethau llen/ysgrifennu creadigol mewn eisteddfodau ar draws Cymru. Heblaw am Golwg, os na ffordd arall i mi chwilio am cystadlaethau ?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Cystadlu ysgrifennu ar gyfer eisteddfodau lleol

Postiogan ffwrchamotobeics » Maw 10 Gor 2007 12:32 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:Dwi'n awyddus i gychwyn cystadlu mewn cystadlaethau llen/ysgrifennu creadigol mewn eisteddfodau ar draws Cymru. Heblaw am Golwg, os na ffordd arall i mi chwilio am cystadlaethau ?


Nagoes.


Nidoes heb Olwg fydd, mond pond o bendroni fyddi,
yn groes i allu,
cym rydd i feddu,

Car dy Gi a'i leddfu.
yng nhoes dy gorwynt di.

G.LLJ.
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan sian » Maw 10 Gor 2007 6:34 am

Mae 'na babell gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn y Steddfod. Mae tipyn o raglenni yn y fan honno.
Oes 'na siop lyfrau Gymraeg yn dy ardal di? Maen nhw'n cadw rhaglenni steddfodau yn eithaf aml ac, os ei di i un eisteddfod, mae rhaglenni eisteddfodau eraill wrth y ddesg lle ti'n talu fel rheol.

Beth yw dy ddiddordeb di - rhyddiaith 'ta barddoniaeth? Mae rhaglen Eisteddfod Tregaron newydd gyrraedd yma. Testunau braidd yn hen ffasiwn - pethe fel "Dau bennill i ofyn am fenthyg whilber" a "Llythyr oddi wrth was fferm at ei feistr ar ôl iddo ddianc adref" - allwn i gopio rhai ohonyn nhw yma os wyt ti eisiau.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cystadlu ysgrifennu ar gyfer eisteddfodau lleol

Postiogan Jac Glan-y-gors » Mer 08 Awst 2007 4:29 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Dwi'n awyddus i gychwyn cystadlu mewn cystadlaethau llen/ysgrifennu creadigol mewn eisteddfodau ar draws Cymru. Heblaw am Golwg, os na ffordd arall i mi chwilio am cystadlaethau ?


Mae <a href="http://www.steddfota.org/">gwefan Cymdeithas Eisteddfodau Cymru</a> yn cynnwys llawer o wybodaeth, a rhai rhaglenni yn yr ardal isod:

http://www.steddfota.org/ffeiliaualluni ... hp?album=9
Rhithffurf defnyddiwr
Jac Glan-y-gors
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 241
Ymunwyd: Sul 20 Gor 2003 3:05 pm
Lleoliad: Dyffryn Aeron

Postiogan SerenSiwenna » Llun 13 Awst 2007 12:45 pm

Testunau braidd yn hen ffasiwn - pethe fel "Dau bennill i ofyn am fenthyg whilber" a "Llythyr oddi wrth was fferm at ei feistr ar ôl iddo ddianc adref" - allwn i gopio rhai ohonyn nhw yma os wyt ti eisiau.
[/quote]

:lol: :lol: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Cystadlu ysgrifennu ar gyfer eisteddfodau lleol

Postiogan SerenSiwenna » Llun 13 Awst 2007 12:59 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Dwi'n awyddus i gychwyn cystadlu mewn cystadlaethau llen/ysgrifennu creadigol mewn eisteddfodau ar draws Cymru. Heblaw am Golwg, os na ffordd arall i mi chwilio am cystadlaethau ?


Tua 4 mlynedd ynol neshi penderfynnu o ni am wneud hyn ac es i ati i ffonio rhai ohonnyn nhw gan ddefnyddio'r rhifau yng nghefn rhaglen y Steddfod Genedlaethol (mae na lot ohonnyn nhw esti) ac mi wnaeth Sian yrru rhai i fi hefyd (diolch Sian :winc: ) Neshi hyd ynoed fynd ati i greu tabl yn excel i ddangodsy rhai "up-and-coming" yn y categoriau fel telyneg a stori fer (mae'r ehedyn rhywle ar y maes ma ond does dim amser gen i i edrych rwan rili - rhywbeth fel eisteddfodwr lleol oedd y teitl.

Eniwe, mi wnes i drio un neu ddau ac es i i un ohonnyn nhw (ddim yn cofio prun un llu) ac roeddwn i yn teimlon awkward gan mai fi a pobl lleol lleol oedd ene (rhan fwyaf yn blant) a oedd yn syllu arna i fel o ni o mars neu rhywle, ac wnaeth y beirniad rubishio fy ngwaith. Neshi drio un arall ond ges i y gwaith ynol hefo disparaging comments arno, rwan - ella mai fy ngwaith i oedd yn sal (fel chi'n gweld mae fy nghymraeg yn Colloquial iawn) ond jest air o rubydd, ella cei di ddim croeso ac fyddwn i yn gynghori chdi i sicrhau fod dy waith wedi ei gwiro....mae Cysgliad ar gael o siop y siswrn/ canolfan y bedwyr ym Mangor, neu elli di lawrlwytho rhywbeth tebyg gan wefan microsoft oam ddim ond mae Cysgliad yn deluxe fersiwn (wrth gwrs ella bo dy Gymraeg di yn well nag un fi ond jest trio cynnig po cyngor fedrwn i dwi)

Lle wyt ti'n byw? O ni wedi sidro, ers stalwm, drio atgyfodi y steddfod lleol yn Rhosllannerchrugog.....ond doedd na ddim llawer o diddordeb felly ddaeth hynna i ddim.

Hefyd, mae cylchgrawn Tu Chwith yn rhoi lle i awdurn/ barddonwyr blagurol ddangos ei gwaith....mae gen i pwt bach yn y gyfrol nesaf...mae yna ehedyn am hyn rhywle ar y maes hefyd, ac mi fydda nhw'n debyg o edrych am cyfranwyr i'r gyfrol nesaf cyn bo hir :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Re: Cystadlu ysgrifennu ar gyfer eisteddfodau lleol

Postiogan sian » Llun 13 Awst 2007 1:37 pm

SerenSiwenna a ddywedodd: roeddwn i yn teimlon awkward gan mai fi a pobl lleol lleol oedd ene (rhan fwyaf yn blant) a oedd yn syllu arna i fel o ni o mars neu rhywle,


Mae eisteddfodau bach yn gallu ymddangos braidd yn cliquey, yn enwedig os nad oes lot o bobl yna - criw o bobl leol sy'n nabod ei gilydd ac wedyn criw o gystadleuwyr sy'n mynd o steddfod i steddfod ac sy'n nabod ei gilydd. Os wyt ti wedi ennill un o'r tlysau llenyddol, ti'n treio ymddangos yn anhysbys cyn y seremoni ond mae'r bobl leol yn gesio pwy wyt ti am bo ti'n ddierth a'r 'proffesionals' yn dy nabod ti beth bynnag.
Wedi dweud hynny, mae sawl eisteddfod leol yn eithriadol o groesawus ac mae safon y cystadlu ar y llwyfan yn uchel iawn yn y rhan fwya ohonyn nhw.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 13 Awst 2007 8:47 pm

Wel dwi wedi cael profiad reit positif wrth ymgeisio mewn eisteddfodau lleol. Mae nhw reit hapus i danfon rhaglen i mi pan dwi wedi gofyn am un.

Llai gredu gymaint o ergyd mae derbyn ymateb negatif am dy waith os wyt wedi rhoi gymaint o ymdrech i fewn i dy stori fer (Mewn un eisteddfod sawl blwyddyn yn ol, roedd y beirniad ddim yn meddwl bod fy stori fer yn deilwng am trydydd safle a dim ond tri wnaeth cystadlu!).

Dwi wedi dysgu fy hyn bod y bobl sydd yn feirniadwyr yn chwilio am defnydd iaith a chywirdeb iaith yn fwy na stori gwreiddiol gyda syniadau unigryw.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan SerenSiwenna » Mer 15 Awst 2007 10:23 am

(Mewn un eisteddfod sawl blwyddyn yn ol, roedd y beirniad ddim yn meddwl bod fy stori fer yn deilwng am trydydd safle a dim ond tri wnaeth cystadlu!).


:D Ddim jest fi felly, mae hynna yn peth reit greulon i ddeud (ddim yn digon da i gael trydydd) does dim angen fod yn Simon Cowell nag oes chwarae teg!

Dwi wedi dysgu fy hyn bod y bobl sydd yn feirniadwyr yn chwilio am defnydd iaith a chywirdeb iaith yn fwy na stori gwreiddiol gyda syniadau unigryw.


Ie wir, dyna dwi di sylweddoli hefyd, biti na allwn nhw jest deud "stori dda, angen brwshio fynnu ar y cywirdeb iaith" neu rhywbeth fellu. Ac hefyd cael y sens i syl;weddoli pan mae dialog wedi ei sgwennu mewn tafodiaeth/ iaith siarad yn hytrach na chywirdeb :drwg:

Gyda llaw, o profiad chi'r maeswyr, pa eisteddfodau lleol sydd hefo adran llenyddiaeth ag sy'n digon bodlon i bobol ddi-lleol cymryd rhan?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Cacamwri » Mer 15 Awst 2007 10:34 am

Wel SS, fi di teithio led led y wlad i steddfode bach er mwyn mynd i hol tlws ieuenctid/cadeirie ac ati, a bob tro yn cael croeso, hyd yn oed nad oeddwn i'n lleol. So os ti eisie trio mewn unrhyw steddfod, dos amdani, does gen ti ddim i golli. A hyd yn oed os oes rhywun yn sbio lawr arnat am nad wyt ti'n lleol, wel wfft iddyn nhw. Os nad ydy e'n dweud yn y rheolau bod angen byw yn lleol, wel does dim yn dy stopio rhag trio.
Llansannan di'r gore dwi di bod fi'n credu - tlws yr ifanc ddwy waith a chadair oedolion unwaith. Croeso mawr, a chael aros mewn hen fuarth yr Ysgrifenyddes am ei bod hi'n teimlo trueni drosta i a fy nheulu gan bo ni di teithio mor bell! :)
Mynytho'n ail agos achos y te ar ol hynny. :winc:
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron