Tudalen 1 o 1

Siarc Marw 5 - allan nawr

PostioPostiwyd: Iau 02 Awst 2007 1:13 pm
gan Dwlwen
Er mawr diogi, ma'r ffansin gelfyddydol, digon blêr yr olwg ( :winc: ) SIARC MARW!!!! nôl am 5ed rhifyn....

Yn y rhifyn hwn:
Cyfweliadau gyda Chowbois Rhos Botwnnog, a Gwyneth Glyn / Detholiad arbennig o nofel newydd Dewi Prysor ‘Madarch’ / Cartwnau egsgliwsif gan ddylunydd clawr ‘Dawns y Trychfilod’, Delyth Badder / Cyfweliad gyda threfnydd Gwyl Macs 2007, Lleucu Meinir / Y cyfarwyddwraig Catrin Doyle yn ceisio dal rhywioldeb y Cymry ar ffilm
...ynghyd â gigs, blogs, yr UDA, ac wrth gwrs, y synfyfyrio, adolygu, a mwydro arferol!

Eisiau copi? Wel...

Os ydych chi'n mynd i Eisteddfod yr Wyddgrug wythnos nesa'...
Bydd Stondinau Swnllyd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn dosbarthu copiau yn gigs Maes B a Chymdeithas yr Iaith (linc)
...ac fe fydda i (a G-man o bosib) rownd y lle hefyd, gyda sach o siarcod yn arbennig i chi ('mond i chi ofyn.)

Os hoffech chi gopi drwy'r post...
Gyrrwch eich cyfeirad at siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk, ac fe wnawn ni'r gweddill. (Mae'n bosib y bydd ychydig o oedi, cofiwch... 'Steddfod, innit.)

Delwedd

Champion!