Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 12:51 pm
gan sian
Madrwyddygryf a ddywedodd:Da iawn am Radio 1 am rhoi siawns i tri myfyriwr agor eu llythyrau canlyniadau yn fyw ar yr awyr, gan arwain i un torri lawr yn fyw achos r'odd hi wedi gwneud mor wael. 30 eiliad o dead air ac ryw twlsyn yn dweud 'Well, there's always clearance !". :rolio:


Ie, dydw i ddim yn hoffi'r syniad o fynd â chamerâu newyddion i'r ysgolion i weld plant yn cael eu canlyniadau. Rhywbeth yn ych-a-fi amdano.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 12:58 pm
gan Macsen
Sai'n fwy o hwyl petai'r myfyrwyr yn eistedd mewn sedd uchel uwchben slime pit.

"You got an F!"

"Noooooo....." *plop!*

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 1:03 pm
gan Jaff-Bach
sian a ddywedodd:Ie, dydw i ddim yn hoffi'r syniad o fynd â chamerâu newyddion i'r ysgolion i weld plant yn cael eu canlyniadau. Rhywbeth yn ych-a-fi amdano.


Paid a son, oddanhwn bla yn yr ysgol blwyddyn dwytha. fel onin mynd mewn ir swyddfa i gal fy nghanlyniada, nath y bobl camra grabio fi, sticio microphone ar fy siaced a dilyn fi fewn efo camera :ofn: odd raid gneud 3 cyfweliad byr wedyn, a fina jest isho mynd i pub agosa :drwg:

diolch byth nesi reit dda!

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 1:08 pm
gan S.W.
Madrwyddygryf a ddywedodd:Da iawn am Radio 1 am rhoi siawns i tri myfyriwr agor eu llythyrau canlyniadau yn fyw ar yr awyr, gan arwain i dechrau crio yn fyw achos r'odd hi wedi gwneud mor wael. 30 eiliad o dead air ac ryw twlsyn yn dweud 'Well, there's always clearance !". :rolio:


Creulon ond doniol - doedd dim rhaid iddi agor ei chanlyniadau hi ar yr awyr nagoedd. Pa raglen oedd hwn? Tua faint o'r gloch? Swn in hoffi cloed 'car crash radio' yma ar 'listen again'.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 9:45 pm
gan huwwaters
Paid poeni efo marciau AS (UG), mae nhw'n codi pob tro erbyn yr ail flwyddyn, i bawb.

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 10:05 pm
gan Madrwyddygryf
S.W. a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Da iawn i Radio 1 am rhoi siawns i tri myfyriwr agor eu llythyrau canlyniadau yn fyw ar yr awyr, gan arwain i un dechrau crio yn fyw achos r'odd hi wedi gwneud mor wael. 30 eiliad o dead air ac ryw twlsyn yn dweud 'Well, there's always clearance !". :rolio:


Creulon ond doniol - doedd dim rhaid iddi agor ei chanlyniadau hi ar yr awyr nagoedd. Pa raglen oedd hwn? Tua faint o'r gloch? Swn in hoffi cloed 'car crash radio' yma ar 'listen again'.


Roedd ar Edith Bowman o gwmpas 1:15-1:30 yn y pnawn. Fe aeth popeth yn wael ar ol hi agor y llythyr ac 10 eiliad o distawrydd wedi'w ddilyn gyda 'Oh my god this is so bad...'.

Eniwe, llongyfarchiadau ar eich canlyniadau. I rai ohonych ddaru wneud yn wael peidiwch a phoeni, ymhen deng mlynedd byddech yn meddwl pam y holl ffys. :winc:

PostioPostiwyd: Sad 18 Awst 2007 10:26 am
gan krustysnaks
Newydd wrando ar y ferch yn agor ei chanlyniadau. Druan â hi. Be sy'n stopio'r rhaglen rhag recordio'r eitem o flaen llaw a'i roi ar yr awyr as live? Mae'n boenus gwrando arni.

I bawb sydd newydd dderbyn eu canlyniadau - gobeithio bod popeth wedi mynd yn iawn. Mwynhewch Wythnos y Glas (ond plis peidiwch bod y person chwydlyd yna fyddai'n gorfod cerdded o'i amgylch ar y pafin yn Aberystwyth am 7 o'r gloch y nos).

Ac i'r rhai na gyrhaeddodd y nod - peidiwch â phoeni. Mae gan Rhodri Morgan raddau o Rydychen a Harvard ac mae'n dal yn dwp fel slej.

Re: Lefelau A

PostioPostiwyd: Sad 18 Awst 2007 12:44 pm
gan xxglennxx
Oooo, ma na llawer o byst ma! LOL

Da iawn i bawb :D

PostioPostiwyd: Sad 18 Awst 2007 12:49 pm
gan xxglennxx
Sili a ddywedodd:Be ma pawb yn fwriadu neud wedi pasio dwch?


Dwi'n mynd i Brifsgol Morgnnwg i hastudio Computer Forensics. Ma gen i 3 ffrindia'n barod: cer i http://www.yougofurther.co.uk i ffeindio pobl sy ar dy gwrs di pawb!

Jys rhaid imi arbed arian. Ond, ar yr ochr plws, vn aros adra efo'n rhieni i :D Byw am ddim, LOL

PostioPostiwyd: Llun 20 Awst 2007 1:31 pm
gan ffacoffipawb
Madrwyddygryf a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Da iawn i Radio 1 am rhoi siawns i tri myfyriwr agor eu llythyrau canlyniadau yn fyw ar yr awyr, gan arwain i un dechrau crio yn fyw achos r'odd hi wedi gwneud mor wael. 30 eiliad o dead air ac ryw twlsyn yn dweud 'Well, there's always clearance !". :rolio:


Creulon ond doniol - doedd dim rhaid iddi agor ei chanlyniadau hi ar yr awyr nagoedd. Pa raglen oedd hwn? Tua faint o'r gloch? Swn in hoffi cloed 'car crash radio' yma ar 'listen again'.


Roedd ar Edith Bowman o gwmpas 1:15-1:30 yn y pnawn. Fe aeth popeth yn wael ar ol hi agor y llythyr ac 10 eiliad o distawrydd wedi'w ddilyn gyda 'Oh my god this is so bad...'.


y gwaetha 'di boi'n deu cyn agor yr amlen, wedi cynhurfu i gyd, "oh i know i'll be fine".