Mi fyddai, os eith pob dim fel y ddysgwylir, yn symud mewn hefo fy nghariad rhywbryd yn ystod y gaeaf yma. Rydym yn mynd i weithio ar y ty/ bwthyn iw gael o'n hyfryd ac yn ddiweddar ddechrauais i feddwl am yr helynt welish i yn golwg am fod pobl o loegr yn symur i Gymru ac yn newid enw'r bythynnod i bethau fel "holly lodge" lle mae'r enwau gwreiddiol Cymraeg wedi bod yna am flynyddoedd maith....
Mi fydda i yn byw ar y Wirral ac felly, i newid y balance chydig (ond yn fwy gan bo fi eisiau rhoid enw bach neis ar fy nghartref) meddyliais fyswn yn pigo enw bach neis Cymraeg iddo a chael plaque bach neis i roid ar y bwthyn.
Dwi ddim yn siwr os rwyf am creu enw unigryw i'r bwthyn neu cymryd enw da ar bwthyn sy wedi ei golli bellach. Braf byddai cael rhai cynnigion (ddim rhai cas plis) gan chi maeswyr gan nad wyf yn gwybod llawer am y pethau yma. Mae'r ty/ bwthyn wedi ei lleoli o flaen cae lle mae yna ysgawen yn tyfu. Mae'r ardd fel rainfforest hefo fferns a bamboo ac ati ynddo fe, ac mi rydan ni yn fwynhau gwylio adar yn ein amser hamdden...