Enwau da ar gyfer bythynnod

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Re: Enwau da ar gyfer bythynnod

Postiogan SerenSiwenna » Llun 03 Medi 2007 1:37 pm

Mali a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:
ooo ia, fysa hynna yn lyfli ac yn edrych yn gret - gyda llaw, beth yw enw dy cartref tithau Mali?


'Drws y Coed' 8) gan fod 'na gymaint o goed o gwmpas !


Wrth fy modd hefo hynna Mali, mae yna rhywbeth hudol amdanno gan fod o yn awgrymu drws mewn coeden i fi, fel y magic far-away-tree neu rhywbeth fel yn Eiry Wyn (ella mai jest fy nychymug i di hwn ddo). Hmmmm, swndio'n lle neis i fyw, os oedd fwy o goed ffor ni fyswn i yn ystyried dygyd yr enw :wps: ond ti'n saff ciw, rhywbeth fel Trem-y ddol neu gorffwys corchwiglen ella....
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan cwrwgl » Mer 05 Medi 2007 8:19 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Os fyddwn am alw'r lle yn Fern Cottage, ai Bwthyn-y-rhedyn fyddai hyn yntau Bwthyn Rhedynen?

Rhedynog

h.y. lle bach yn y rhedyn. Oes lot o redyn yn tyfu o gwmpas y bwthyn?

Am brosiect difyr ydi hyn! Maes-e yn enwi ty newydd SerenSiwenna.
A yw SS yn sylweddoli y bydd rhaid iddi gael parti "cnesu aelwyd" a gwadd pawb off y maes rwan!!
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Postiogan SerenSiwenna » Iau 06 Medi 2007 1:47 pm

cwrwgl a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Os fyddwn am alw'r lle yn Fern Cottage, ai Bwthyn-y-rhedyn fyddai hyn yntau Bwthyn Rhedynen?

Rhedynog

h.y. lle bach yn y rhedyn. Oes lot o redyn yn tyfu o gwmpas y bwthyn?

Am brosiect difyr ydi hyn! Maes-e yn enwi ty newydd SerenSiwenna.
A yw SS yn sylweddoli y bydd rhaid iddi gael parti "cnesu aelwyd" a gwadd pawb off y maes rwan!!


:lol: Falch bo chi'n ei weld e'n prosiect difyr yn hytrach na fi'n bod yn cheeky/ anwreiddiol :winc: ha, mae'r ty yn reit fach am barti mawr...ond ella un fach i bawb sy' di helpu enwi'r ty de 8)

Mae yna lot o ferns yn yr ardd achos bo fy nghariad wedi ei selio ar rainfforest/ jwngwl. Felly:

Bwthyn Rhedynog (Fern cottage?)

Rhedynen di un fern ia? a rhedyn di'r plural? :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan DAN JERUS » Mer 10 Hyd 2007 12:44 am

Wel os ti am emphasisio'r gwyrddni beth am "Rhed Yma" fel enw- sef bo gen ti Rhedyn yn tyfu yno ac, wrth gwrs ar y fflipside, dy fod yn gwahod pobl yno ar frys! yoiks! :winc: 8)
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Manon » Mer 10 Hyd 2007 8:04 am

'Da ninna' ar fin symud i dy newydd, ac yn cysidro dwyn enw ty Mali... Mae Drws y Coed yn lyfli! Mae 'na lwyth o goed derwen yn tyfu o gwmpas y ty so 'sa'n neis cael hynna yn yr enw...

Ti 'di symud eto SerenSiwenna?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan khmer hun » Mer 10 Hyd 2007 10:43 am

Swn i'n mynd am 'Cilgwri' os nad oes yna ddegau o ex-pats Cymraeg wedi enwi'u tai'n hynny'n barod.

Cytuno â Cwrwgl - 'Rhedynog' yn enw pert, gwreiddiol, unigryw. Dim angen 'bwthyn' o'i flaen, mae'n golygu lle bach yn y rhedyn.

Mae yna blas 'Treysgawen' ger Llangefni, Môn - oes dach chi gysylltiade ffor'co?
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Postiogan SerenSiwenna » Mer 10 Hyd 2007 10:44 am

DAN JERUS a ddywedodd:Wel os ti am emphasisio'r gwyrddni beth am "Rhed Yma" fel enw- sef bo gen ti Rhedyn yn tyfu yno ac, wrth gwrs ar y fflipside, dy fod yn gwahod pobl yno ar frys! yoiks! :winc: 8)


:lol: :lol: reit dda wir, fydd raid ystyried pob conotation cyn setlo ar enw felly bydd :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan SerenSiwenna » Mer 10 Hyd 2007 10:52 am

Manon a ddywedodd:'Da ninna' ar fin symud i dy newydd, ac yn cysidro dwyn enw ty Mali... Mae Drws y Coed yn lyfli! Mae 'na lwyth o goed derwen yn tyfu o gwmpas y ty so 'sa'n neis cael hynna yn yr enw...

Ti 'di symud eto SerenSiwenna?


Ia wir, mae Drws y Coed yn lyfli tydi....ddim digon o goed ger y ty newydd cw i justifio cymryd yr enw yna yn anffodus :?

Na, dwi dal yn byw yng nghanol y ddinas ma ar hyn o bryd - wedi meddwl fyswn i yn symud mewn mis nesaf ond dyw'r ty ddim yn barod eto felly fydd hi arol 'dolig rwan be debyg :? Te befo, dwi dal yn sidro pa enw i gael ar y ty felly does na'm brys sbo :D
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Macsen » Mer 10 Hyd 2007 11:05 am

Yn y cyfamser dw i wedi prynu ty ac angen enw hefyd! :ofn:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan SerenSiwenna » Mer 10 Hyd 2007 11:09 am

khmer hun a ddywedodd:Swn i'n mynd am 'Cilgwri' os nad oes yna ddegau o ex-pats Cymraeg wedi enwi'u tai'n hynny'n barod.

Cytuno â Cwrwgl - 'Rhedynog' yn enw pert, gwreiddiol, unigryw. Dim angen 'bwthyn' o'i flaen, mae'n golygu lle bach yn y rhedyn.

Mae yna blas 'Treysgawen' ger Llangefni, Môn - oes dach chi gysylltiade ffor'co?


Mm "Bwthyn Rhedynog", mae hynnan ciwt tydi, Dio'm yn meddwl ferny cottage tho nadi?

Ydy Treysgawen yn golygu tre yn yr ysgawen? Sgin i ddim cysylltiad teuluol hefo Môn, ond da ni yn mynd ene yn aml i sbio ar adar, mae'n ddel iawn ar y clogwyn ger y goleudy...bwthyn Ysgawen?
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron