gan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 10 Hyd 2007 11:01 am
Wedi defnyddio'r fformiwla arbennig o gyfri pleidleisiau - sef cymeryd y nifer o bleidleisiau, eu lluosi gyda'r nifer o ranbarthau, rhannu'r cyfanswm gyda'r gyfanswm a geir o ranu'r nifer o bobol oedd yn Y Ficar efo faint sydd yn yr Enw Da, tynnu sgwerwt -1 o'r cyfan, rhoi'r rhif hwnnw wedyn mewn bracedi a'i gynganeddu, cyn taflu'r cwbwl i ffwrdd a dod i'm penderfyniad fy hyn o beth ddylai'r canlyniad fod*, gallaf gyhoeddi mai anthem newydd Cymru yw "Ffarwel i Your Mama ar fy Nghefn".
Fe fydd yr anthem yn cael ei ddefnyddio ddydd Mercher nesaf pan fydd IWJ a Rhodri Morgan yn reslo'n noethlymyn mewn pwll o fara brith ar lawr y Cynulliad.
Diolch i bawb.
* system sydd dan yn fwy dealladwy na'r Dull Duckworth-Lewis
Ie, ie. Na fe.