cwrwgl a ddywedodd:Mae'n cynhesu ein holl ddwr, ond mae switch emersion trydan yma hefyd i gynhesu dwr pan fydd y rayburn off.
Mae'n un ni yn cynhesu digon o dd?r wrth gwcio gyda'r nos ar gyfer molchi yn y bore a golchi dwylo etc trwy'r diwrnod wedyn
cwrwgl a ddywedodd:Mi fedri gysylltu rayburn / aga i redeg gwresogydd hefyd - da ni heb yma coz ty rhent ydio, ond os fasa ni bia'r ty, mi faswn yn gwario ar gael gwresogydd yn yr hall yn linked i'r rayburn.
Mae'n un ni yn cynhesu'r ty i gyd - mae switsh ar wahan i'r cwcio ar gyfer hynny. Mae gwres cwcio yn cynhesu un gwresogydd ar ben y grisiau.
cwrwgl a ddywedodd:con's:
- mae'n ofnadwy o ddrud i'w redeg (tua £20 yr wythnos mewn oel?)
Mae tanc o oil yn para tua blwyddyn i ni. £330 oedd y bil diwetha - felly llai na £7 yr wythnos.
cwrwgl a ddywedodd:- fedri di ddim berwi pethau fel reis a pasta arno, na gwneud stir fry's.
dim problem gwneud pethe fel hyn ar ein un ni.
cwrwgl a ddywedodd:Mae bywyd yn lot haws yma ers i ni gael stof drydan hefyd - fedri gael sosban i'r berw ar y stof drydan wedyn symyd y sosban i'r rayburn i simro.
Reit hawdd codi llysiau etc i'r berw ar ein un ni.
cwrwgl a ddywedodd:Un peth rhaid ti ystyried hefyd yw amser coginio - mae pob dim yn LOT arafach gyda range, felly os wyt yn gweithio llawn amser ac isio bwyd reit handi wedi cyrraedd adref, forget it! Dwi'n gweithio o adre felly mi fedra i sticio rwbath fewn ganol pnawn i goginio erbyn amser te.
Hyn ddim problem gyda'n un ni chwaith - dw i bob amser yn ei gadael hi'n ben set cyn dechrau gwneud bwyd. Mae'n cymryd rhyw ugain munud i gynhesu ac wedyn does dim lot o wahaniaeth.