Ces i blant yn gwneud trick or treat neithiwr. Chwarae teg, roedd nhw wedi gwneud ymdrech i gwisgo fyny a phopeth. Dim hoodies gyda masg rhad yn rhoid bricsen trwy'r ffenestr i weld yn nunlle. Eniwe, mi rois fferins i nhw.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Erioed di bod hefo unrhyw amynedd gyda busnes tric or trit ma. Nes i erioed mynd allan yn neud o pan yn hogyn bach.
Y Wraig yn meddwl bod dwi'n hen ddiawl miserable yn gwrthod codi i ateb drws - nath hi orfod neud yn lle. Cawsom ni rhyw 3 neu 4 set o blant bach yn dod draw neithiwr hefo'u rhieni. Mae'n debyg oedden nhw'n edrych yn dda iawn - naethon nhw gymryd y pacedi Maltesers i gyd y diawled.
Po leiaf o tric o treaters oedd yn dod mwya o fferins i fi.
Am y tro cyntaf mewn sawl blwyddyn ces i ddim disgyblion Denbigh High yn dod at y drws. Gwd