sian a ddywedodd:Wnes i ddigwydd gweld rhyw raglen am y paratoadau at ymweliad y frenhines ag America ac fe wnaeth e 'nharo i o'r newydd pa mor afiach yw sefyllfa lle bo rhywun yn cael ei galw'n Your Majesty jest achos pwy mae'n digwydd bod.
Dw i'n weriniaethwr ond mae'n deg dweud mai teulu brenhinol Lloegr yw'r un mwyaf ffurfiol a 'hen ffasiwn' yn y byd. O ran Ewrop, o leiaf, mae'r teuluoedd brenhinol yn fwy cyffredin, yn llai ffurfiol ac yn gwario llawer llai o arian na'r un ym Mhrydain: debyg hefyd bod y teuluoedd brenhinol hyn yn fwy poblogaidd na'r un sydd ohono ym Mhrydain, hefyd.
Diwedd y gân ydi bod manteision ac anfanteision a phethau da a phethau drwg ynghylch brenhiniaethau (fel unrhyw system arall o lywodraeth, wrth gwrs), ond os y'u cefngogir gan boblogaeth y wlad honno ni ellir dadlau gyda'u bodolaeth. Yn fy marn i prin o awydd sydd ym Mhrydain ar gyfer newid y drefn, waeth pa mor annheg ydyw, er mi dybiaf hefyd efallai y byddai'r Cymry yn fwy tebygol o fod eisiau newid (sy'n dro byd o ugain mlynedd yn ôl).
Er, un peth sydd gan wledydd â theuluoedd brenhinol (yn Ewrop, yn sicr) yn gyffredin fel rheol ydi eu bod yn dueddol o fod yn wledydd rhyddfrydol, ffyniannus a sefydlog i raddau mwy na gweriniaethau. Wn i ddim a yw'r ddau beth yn gysylltiedig, ond synnwn i ddim ei bod yn deillio o gael pennaeth diduedd ar y wladwriaeth.
(Sori - dw i'n gwybod mai dadl cyffredinol ar frenhiniaeth a gweriniaeth ydi hon, d'on i'm yn bwriadu symud off y pwyntf fel a wnes rywfaint).