Brenhiniaeth v Gweriniaeth

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Brenhiniaeth v Gweriniaeth

Postiogan Macsen » Gwe 30 Tach 2007 1:45 pm

Beth yw'r dadleuon o blaid brenhiniaeth? Dw i'n credu y gall frenin ddarparu gwasanaeth gwerthfawr ar yr amod ei fod yn a) ddi-rym, b) tawel, c) rhad. Rhai o'r manteision alla'i feddwl amdanynt yw a) nad yw gwlad yn cael ei ddifwyno gan weithredoedd ei wleidyddion tra bod brenin sydd heb pwer nag chwaith farn cyhoeddus yn ben symbolaidd arno, b) bod brenin yn tueddu i hybu ac arwain at barhad diwylliant a traddodiadau gwlad (y broblem yn fan hyn wrth gwrs yw pan nad yw brenin yn cynrychioli diwylliant un o'r ardaloedd y mae'n arglwyddiaethu arno), c) bod brenin o les wrth ddenu twristiaid, os yw'r brenin yn rhatach na'r swm o arian sy'n dod i mewn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sian » Gwe 30 Tach 2007 2:15 pm

Wnes i ddigwydd gweld rhyw raglen am y paratoadau at ymweliad y frenhines ag America ac fe wnaeth e 'nharo i o'r newydd pa mor afiach yw sefyllfa lle bo rhywun yn cael ei galw'n Your Majesty jest achos pwy mae'n digwydd bod.

Un frawddeg ddifyr ar y rhaglen. Roedd rhywun o'r palas yn esbonio wrth un o'r trefnwyr Americanaidd beth roedden nhw'n ei wneud "when we have foreign visitors" a'r Americanwr yn edrych braidd yn stowt a dweud "I don't think the Americans would class themselves as being foreign"!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Brenhiniaeth v Gweriniaeth

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 30 Tach 2007 3:03 pm

Beth yw'r dadleuon o blaid brenhiniaeth?

Dw i'n credu y gall frenin ddarparu gwasanaeth gwerthfawr ar yr amod ei fod yn farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 30 Tach 2007 3:34 pm

Pan ddim cael arlywydd sy'n cyflawni rol y frenhiniaeth? o leuaf ma'r pobl yn cael dewis pwy bydd yn cyflawni rol symboliaeth hyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Brenhiniaeth v Gweriniaeth

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 30 Tach 2007 3:36 pm

Macsen a ddywedodd: c) bod brenin o les wrth ddenu twristiaid, os yw'r brenin yn rhatach na'r swm o arian sy'n dod i mewn.


Sneb yn dod i weld brenin / frenhines. dod i weld adeiladau maent yn byw ynddo mae nhw. Dwed faint o bobl syn ymweld a Versailles? Siwr duw nad y frenin mae nhw yn mynd yna i weld!
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 30 Tach 2007 4:02 pm

sian a ddywedodd:Wnes i ddigwydd gweld rhyw raglen am y paratoadau at ymweliad y frenhines ag America ac fe wnaeth e 'nharo i o'r newydd pa mor afiach yw sefyllfa lle bo rhywun yn cael ei galw'n Your Majesty jest achos pwy mae'n digwydd bod.


Dw i'n weriniaethwr ond mae'n deg dweud mai teulu brenhinol Lloegr yw'r un mwyaf ffurfiol a 'hen ffasiwn' yn y byd. O ran Ewrop, o leiaf, mae'r teuluoedd brenhinol yn fwy cyffredin, yn llai ffurfiol ac yn gwario llawer llai o arian na'r un ym Mhrydain: debyg hefyd bod y teuluoedd brenhinol hyn yn fwy poblogaidd na'r un sydd ohono ym Mhrydain, hefyd.

Diwedd y gân ydi bod manteision ac anfanteision a phethau da a phethau drwg ynghylch brenhiniaethau (fel unrhyw system arall o lywodraeth, wrth gwrs), ond os y'u cefngogir gan boblogaeth y wlad honno ni ellir dadlau gyda'u bodolaeth. Yn fy marn i prin o awydd sydd ym Mhrydain ar gyfer newid y drefn, waeth pa mor annheg ydyw, er mi dybiaf hefyd efallai y byddai'r Cymry yn fwy tebygol o fod eisiau newid (sy'n dro byd o ugain mlynedd yn ôl).

Er, un peth sydd gan wledydd â theuluoedd brenhinol (yn Ewrop, yn sicr) yn gyffredin fel rheol ydi eu bod yn dueddol o fod yn wledydd rhyddfrydol, ffyniannus a sefydlog i raddau mwy na gweriniaethau. Wn i ddim a yw'r ddau beth yn gysylltiedig, ond synnwn i ddim ei bod yn deillio o gael pennaeth diduedd ar y wladwriaeth.

(Sori - dw i'n gwybod mai dadl cyffredinol ar frenhiniaeth a gweriniaeth ydi hon, d'on i'm yn bwriadu symud off y pwyntf fel a wnes rywfaint).
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Macsen » Gwe 30 Tach 2007 4:04 pm

Mae arlywydd yn tueddu i fod yn rhyhunandybus a nid yw'n cyfrannu at ddiwylliant a thraddodiad y wlad, nag yn denu twristiaid fel arfer. Does ganddo'm yr un 'mystique' sydd gan frenin.

Dwi'n yn credu y dylai brenin cael ei ddewis drwy brawf blynyddol o sgil brenhinol - saethyddiaeth, barddoniaeth, sioncrwydd, cleddyfiaeth, ayyb. Fe fyddai modd i frenin fod mewn pwer am flynyddoedd ond byddai rhaid iddo amddiffyn ei rol bob blwyddyn. Byddai'r digwyddiad hefyd yn denu lot o dwristiaid a diddordeb, ac yn cyfrannu arian tuag at gostau'r frenhiniaeth bob blwyddyn. Hefyd wrth gwrs fe all ferch ennill y gystadleuaeth a gael ei choroni'n Frenhines.

Mna draddodiad newydd dyle ni ei greu 'Iolo Morganwg' style dwi'n credu.
Golygwyd diwethaf gan Macsen ar Gwe 30 Tach 2007 4:04 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 30 Tach 2007 4:04 pm

Oedd gan Bolshifeciaid Rwsia y syniad iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 30 Tach 2007 4:11 pm

70 mlynedd o Gomiwnyddiaeth Rwsaidd? 'Swn i hyd yn oed yn mynd am Liz cyn hynny...!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 30 Tach 2007 4:14 pm

Na, nid son am y gyfundrefn wleidyddol wnaeth ddilyn Chwyldro 1917 oedden i (ma hwnna'n ddadl wahanol) ond yn hytrach cyfeirio at agwedd y Bolshifeciaid tuag at Frenhiniaeth oeddwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron