Yn y bon i mi, mae brennhiniaeth yn amhosib i amddiffyn.
Dy bwynt cyntaf am fydd brenhiniaeth yn cadw'n ddistaw ac ddim yn ymyrryd yn y gwleidyddiaeth. Gofynna di i unrhyw gwenidog llywodraeth ac mae nhw’n disgrifio fo fel poen yn y pen ol! Mae’n hoffi rhoi ei big lle nad oes ganddo’r hawl neu busnes i wneud i. Cafodd Charles Clarke, ar ol derbyn cyfres o lythyrau diddwedd gan y Charles yn ymosod ar eu polisi addysg, cael digon ohono ac mynd ar y radio i ddweud wrtho i gau ei geg. Pwynt arall wnaeth Prof Richard Dawkins oedd am Ganolfan Homeopathy a agorwyd gan NHS yn Llundain, a costiodd tua £20 miliwn. Does dim sail gwyddonol fod homeopathy yn gweithio ond edrychir fod y ganolfan wedi agor oherwydd pwysau gan Carlo.Ar y llaw arall, mae gwledydd fel Iwerddon ac yr Almaen wedi sefydlu arlywyddiaeth llwyddianus iawn ble nad oes yr arlywydd bwer. Roedd Mary Robinson yn hynod o boblogaidd gyda etholwyr yn Iwerddon pan ddaeth ei therm i ben.
Wrth son am ddiwylliant. Ia mae pobl yn hoffi son am traddodiadau hynafol sydd yn deillio nol canoedd o flynyddoedd. Ond y gwir yw, dim ond tua 150 mlwydd oed yw rhan fwyaf o traddodiadau sydd yn gysylltiedig a’r brenhiniaeth (agor y senedd ayb). Cafodd rhan fwyaf eu dyfeisio gydol yr amser victorianaidd. Wrth son am helpu’r twristiaid, dwi’n hoff o dyfyniad Mark Steel ar y mater: Imagine standing on the top of the Eiffel Tower and saying to yourself “Well its nice, but it would be better if France had a consitituional monarchy”.
Mae llawer yn hoffi pwyntio allan am Hitler, pan gollodd Almaen eu brenin ar ol rhyfel byd I. Pwynt teg, ond meddyliwch beth digwyddodd yn yr Eidal (Mussolini). Roedd na brenhiniaeth yn bodoli o dan y system ffasgaidd fan yna.
Buaswn ni yn hoffi gweld Prydain yn hethol eu pennaeth llywodraeth. Ond sdim awch gan y cyhoedd am y fath ddadl dwi’n credu.