o ni'n darllen 'wele'n gwawrio' dwrnod o blaen, a odd on son am riw ddyn odd yn cerddad o gwmpas y dre a ballu (a'n chydig bach o dramp) a nesh i gofio rwyn yn deutha v am y dyn ma odd yn deud na fo odd bia'r castall. Lord rwbath neu gilydd. pwy dio plis??
R'oedd o'n credu ei fod yn gyfoethog tu hwnt, ag yn arfer sgwennu sieciau mawrion i bobl r'oedd o newydd eu cyfarfod yn y dre, fel anhregion. Mi fysa'r derbynnydd cynhyrfiedig yn rhuthro i'r banc i dalu'r siec a'r cashier druan yn gorfod eu siomi.