Fel un o olygyddion newydd Papur Bro Y Rhwyd (Caergybi a gorllewin Môn) 'dwi'n ceisio ysgogi mwy o bobl ifanc i gyfrannu erthyglau a straeon difyr o'u broydd.
'Dwi'n chwilio am hanesion cyfredol, hanesyddol, chwaraeon ... yn wir, unrhywbeth. Felly os ydych chi'n byw yn yr adal neu'n hannu o'r ardal ac â diddordeb, plîs, da chi, gyrrwch neges breifat am fanylion!
diolch,
Eusebio