Oes na unrhywun arall yma yn dychryn ar faint o bethe Playboy sy' i weld ym mywydau merched ifanc iawn yn ddiweddar? Ma gen i amryw o ffrindiau sy'n athrawon sy'n deud bod cas pensil Playboy (sy'n cyd-fynd efo'ch llofft Playboy a doliau Bratz, sy'n sex-symbols pouty yn eu hunain) yn dod yn wbeth mwy a mwy amlwg ymysg y kidz.
Mae gwefan Bin the Bunny wedi bod yn neud lot i godi ymwybyddiaeth am Playboy yn arbennig, ond ai esiampl o'r diwydiant rhyw yn dod yn rhan o'r byd arferol, gole ddydd yw hyn? Neu jyst ffeministiaid yn gorymateb?
Gyda Anne Summers ar pob stryd fawr, gwersi dawnsio Polyn i ferched dan 12, a Nuts/FHM/Maxim yn gwthio diwylliant fel hyn, oes na obaith i ferchaid dyfu fyny gyda hunen hyder, ac i fechgyn ddeall bod pob hogan ddim cweit mor sex-crazed â Nikki, 19, from Basildon?