Comisiynu Arlunydd

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Comisiynu Arlunydd

Postiogan Gwyn » Llun 11 Chw 2008 10:06 am

Sori os yw hwn yn y Seiat anghywir, ond sain siwr lle dylen i roi fe!

Ma pen-blwydd fy nghariad cyn bo hir, a o'n i'n meddwl bydde fe'n syniad da cael rhywun i beintio llun o'i chi hi iddi. Sain gwbod lle i ddachre da rhwbeth fel hyn... allith rhywun helpu? Bydde unrhyw wybodaeth yn ddefnyddiol e.e. lle alla i gael gafael ar arlunydd? faint bydde hyn yn ei gostio? oes rhywun yn nabod arlunydd? ddylen i chwilio am arlunydd sy'n arbenigo mewn anifeiliaid? Dwi wir ddim yn gwbod lle i ddachre!

Diolch!
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog

Re: Comisiynu Arlunydd

Postiogan cwrwgl » Sul 16 Maw 2008 7:57 pm

http://www.sarahspetportraits.co.uk/

+ os wyt yn teipio "pet portraits" i mewn i Gwgl cei restr hir. Mae'r rhan fwya ohonynt yn gweithio o ffotograffau.

Os tisio cefnogi artist ifanc Cymreig falle gofyn i rhywun sy'n fyfyriwr lefelA a fyddai'n gwerthfarwogi'r £££?? A chynnig tua £50+ am pencil drawing ar bapur A4, wedi ei neud o photo?

Faswn i ddim yn meiddio argymell enw unrhyw artist proffesiynol Cymreig i ti. Dychmyga'r scenario...

brrr brrr... brrr brrr...

"helo?"

"o helo, a fyddai'n bosibl siarad gyda Iwan Bala os gwelwch yn dda?"

"siarad"

"o helo, Gwyn sy'n siarad..." ayb...
Don't go there...
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: Comisiynu Arlunydd

Postiogan tafod_bach » Llun 17 Maw 2008 9:34 am

Mae comisiynu artist paent gwerth ei halen yn mynd i gostio dipyn iti - yn dibynnu ar faint wyt tisio gwario ynde.
mae ffrind imi newydd gael un dyfrliw mawr da (h.y. mae'n edrych fel y ci yn y ffoto gath yr artist, ddim yn rhyyy tacki etc) am tua 90£ drwy edrych am artist dros ebay (allai gael manylion hwnnw iti os tisio = n.b-ia fi!).

felarall, y lle gore ydi dy ganolfan gelfyddydau leol. cer i ofyn yn y siop grefftau fanno/ar y ddesg, achos yn aml iawn ma na *rywun* yna, siawns, yn gwybod pwy di pwy ymysg yr artistiaid lleol iti. cofia bod siopau felna yn gallu yn rhoi markup o tua 35-45% ar waith artistiaid, felly fydd sbio yn fanno am bris ffon-fesur ddim iws iti. fel soniodd ngyfaill uchod, 50-70 swn i'n dalu (dwi ddim mor obsesd efo cwn a'n ffrind soniais amdani uchod) - efo mownt. dim ffram.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Comisiynu Arlunydd

Postiogan Gwyn » Llun 17 Maw 2008 2:21 pm

Diolch i chi'ch dau am eich help, ond buoch chi lot rhy slo yn ymateb ma gen i ofn! :lol:

Ges i hyd i restr o arlunwyr anifeiliaid yng Nghymru ar y we (gyda help cydweithiwr sy'n gwybod tipyn am bopeth) a dewis rhywun a gwaith odd yn edrych yn ffantastic, o ardal Mydroilyn. Ma'r portrait terfynol wedi'i anfon ata i heddi, gobitho bydd e'n cyrraedd fory i fi gael cyfle i fynd a fe lawr i'r siop fframio yn Llanidloes cyn pen-blwydd y cariad dydd Sul. Ges i weld sgan o'r llun dros yr ebost bore ma... rhaid i fi weud, odd e'n anhygoel! Gwell nag o'n i di dychmygu.

Os oes rhywun a diddordeb mewn cael portrait tebyg wedi'i neud, alla i argymell Melanie Phillips a Nick Beall yn fawr iawn (os nagych chi'n meindio talu tipyn bach o arian wrth gwrs). :winc:

http://www.pet-portraitartist.com/
Shwdi boi
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 579
Ymunwyd: Iau 07 Ebr 2005 12:47 pm
Lleoliad: Clywedog


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron