Licio syniad yr edefyn. Bu rhywbeth tebyg yn
seiat Menter a Busnes, ond gan mai i aelodau'n unig (croeso i bawb ymaelodi) mae hwnnw, ni fu llawer o drafod.
Enghraifft ddiwylliannol - Beth am ail-gydio mewn hen nosweithiau / diwrnodiau gwerinol, Noson Lawen heb S4C, fel y Fez Noz yn Llydaw.
Dwi heb fod i Fez Noz ond wedi clywed gan amryw sydd wedi eu bod yn wych. Mae yna wyliau dawnsio gwerin yn bodoli'n barod, Gwyl Ifan yng Nghaerdydd a Dawnsio Trwy'r Cwm yng Nghwm Rhymni ac hefyd Cwlwm Celtaidd ym Mhorthcawl sy'n cynnwys cerdd a dawns o'r gwledydd Celtaidd i gyd.
Mynnu arian cyhoeddus i ardaloedd allu trefnu noson / diwrnod eu hunain. Dim gwyliau mawr, jyst noswaith / dydd syml sy'n dod a'r gymuned at ei gilydd i ddathlu pethau ma nhw'n meddwl sy'n bwysig.
Yn bersonol, dwi'n meddwl bod pethau'n gallu gweithio'n well heb arian cyhoeddus - unwaith chi'n mynd yn ddibynnol arno, gallia pethau fynd yn
tits up pan ddaw i ben (meddyliwch Y Byd, Gardd Fotaneg, Canolfan y Mileniwn...mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd). Wedi dweud hynny, mae yna gynlluniau ar gael i helpu tuag at ariannu digwyddiadau diwylliannol sef Noson Allan gan y Cyngor Celfyddydau. Mae yna hefyd ffynhonellau loteri fel Arian i Bawb. Yn anffodus mae lot o berfformwyr yn gweld Noson Allan fel esgus i ddyblu eu prisiau sy'n negyddu'r mantais i drefnwyr o gael rhwyun yn cyfor hanner y gost
Engrhaifft llwyddiannus o grwp lleol sydd wedi mynd ar ôl arian yw
Cymdeithas Gymraeg Beddllwynog. Mae'nt wedi bodoli ers sawl blwyddyn gyda unigolyn gweithgar o'r enw Robert Hughes fel petai wedi cysegredu ei fywyd i ddysgu'r pentref i gyd i siarad Cymraeg - dwi'n meddwl ei fod o leaif hanner ffordd trwy wireddu'r dasg hyd yma! Ta waeth, sefydlwyd y Gymdeithas yn ffurfiol dy 'constitiwtiyn' ac mae nhw rwan yn gallu hel grantiau. Dyma nhw'n cael cryn tipyn (yn bennaf gan eu bod mewn ardal Cymunedau'n Cyntaf), ac o hyn mae nhw wedi ariannu llyfrgell fechan o lyfrau Cymraeg yn y ganolfan cymuned, ariannu trip penwythnos i ogledd Cymru i bobl ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch Cymraeg (mae nhw newydd ddod nôl yn un darn o
Flaenau Ffestiniog) ac ar ben hyn i gyd, bydd gwyl gerddoriaeth 3 diwrnod o'r enw 'Bedroc' gyda
Dafydd Iwan, Genod Drwg a Frizbee!.
Busnes asiantaeth deithio Gymraeg ar y we. Dwi byth am wneud o, ond dwi'n recno galla fo fod yn fusnes bach llwyddiannus.
Wedi ei anelu at ysgolion yn bennaf ond mae
Hwyl a Fflag (enw gwych) yn trefnu tripiau ysgolion.
Asiantaeth newyddion annibynnol ar gyfer siaradwyr ieithoedd llai. Gallent gronni eu adnoddau a gyrru newyddiadurwyr i bob rhan o'r byd.
Eurolang?
Mae'r syniad 4wal am dai shit yn swnio'n ddelfrydol ar gyfer YouTube neu Sesh.tv- sgin ti gamera fideo?
Dau syniad sydd gyda fi yw gwefan i werthu llyfrau Cymraeg ail-law. Mae lot ar werth ar e-bay ac Amazon, ond rhaid gwneud lot o chwiliadau. Dwi'n siwr gelli'r defnyddio rhyw sustem CMS am-ddim i greu rhywbeth gweddol syml. Sgwn i os fyddai gan y pobl tu cefn i
Y Caglwr ddiddordeb yn y syniad (ac hefyd fynediad i gymorthdal os ydynt yn elusen/gymdeithas)
Ail syniad, sy'n rhannol debyg i n Rhodi Nwdls, yw gwefan yn hyrwyddo cyrchfannau twrisitiaeth gwirioneddol Gymreig. Tydi'r Bwrdd Croeso gwenud fawr ddim o hyn, dim ond gwthio Cestyll Normanaidd (sydd yn drawiadol chwarae teg), ac mae gan Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethaol Cymru yr adnoddau i hyrwyddo'i rhwydwaith ardderchg nhw o sefydlaidau. Y math o lefydd hoffen i'n cael eu hysbysebu yw llefydd fel:
Hanes CymruSenedd-dy Owain Glyndŵr
Canolfan a Gerddi Hywel Dda
Cilmeri
Ieithyddol/Cerddoriaeth CymraegPont Trefechan
Cwlb y Bont, Clwb Ifor Bach, Tŷ Tawe, Mochyn Du (fel llefydd i fynd tu allan i'r fro)
AdlonaintTŷ Siamas
Pentref Bach Sali Mali
Siopau Llyfrau Cymraeg
Dylai na fod un man yn hyrwyddo'r rhain i gyd, yn debyg i wefan
Gwyliau Cymraeg sy'n rhestru gwestai ble mae'r staff yn siarad Cymraeg. Efallai gallai cyrchfannau o'r fath ddod at eu gilydd i ariannu'r peth. Yna yn hytrach na thalu am hysbysebion unigol yn Golwg/ ar maes-e, gallant ddod a'r arian hysbysebu i gyd at eu gilydd a'i ddefnyddio'n well.