WikiSyniadau! Iei!
Trawsnewid papurau bro i fod yn berthnasol ar gyfer yr 21ain ganrif.
Datblygu system ar-lein lle gall cymunedau sgwennu a recordio eu newyddion eu hunain mewn ffordd ddeinamig. Penodi golygyddion ar gyfer pob tref/cymuned i sicrhau cynnwys a chyfraniadau gan bobol a saethu fideos perthnasol. Ebostio newyddion allan bob wythnos. Rwbath fel y model
Vilaweb yn Catalonia neu gylchgronnau Topagunea yng Ngwlad y Basg. Dydi jest syndicatio cynnwys i BBC lleol i mi ddim yn ddigon da, a ddim yn gynhaliol. Dyw'r BBC ddim yn gallu bod yn wirioneddol leol pa bynnag mor galad ma'n trio.
Datblygu gwasg leol berthnasol Gymraeg ar-lein sy'n gallu dechrau cystadlu gyda'r Cambrian News uffar a'i deip di-werth.
Yn angen: amser a cash hysbysebu a datblygu. Croeso i unrhywun redag efo'r syniad.
Busnes asiantaeth deithio Gymraeg ar y we. Dwi byth am wneud o, ond dwi'n recno galla fo fod yn fusnes bach llwyddiannus.
Gorsaf Radio Steddfod. Darlledu am wythnos ar drwydded RSL. Nesh i feddwl am hwn llynadd ond dwi fyth am gael yr amsar i'w wneud o leni nac yn y dyfodol.
Maes-eio ers 2002, yo.