Rhannu Syniadau

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan 7ennyn » Llun 24 Maw 2008 3:11 pm

Ella y dylsa'r hen bobol fod wedi gwario mwy ar yr adeiladwaith a llai am y trimings? Hmm, codi pais ar ol piso, ond siwr bod yna wers yn fanna yn rhywle.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Llun 24 Maw 2008 7:10 pm

sian a ddywedodd:syniad da, ond dw i ddim yn siwr pa mor ymarferol yn y rhan fwyaf o achosion.


Gwir, mae pontydd (CADW, cyllid, grantiau ayyb) yn boen, ond mae pontydd yno i'w croesi!

:syniad:

Rhaglen i S4C/BBC Wales neu olygfa mewn rhaglen sgiets! Mockumentary yn arddull Location location location, neu unrhyw raglen prynu tai. Dychan llwyr! Yn hytrach na broker yn cynghori ar budget, lleoliad a'r 'fargen', egluro'r effaith mae pobl yn gael pan mae nhw'n prynu tai heb wybod dim am yr ardal maen't yn symyd iddi.

ee:
Prynwyr "We want a permanent proffesional pad in London and a temporary one in rural Wales / Yorkshire.

Broker "Do you realize that you may have a negative effect on rural communities if you buy....bla bla bla?"

Prynwyr "Do we look as if we care?"

Broker "Nope! OK lets go house hunting in indigenous territories for TV's sake!"

:syniad:

Neu, rhaglen yn dychan 4Wal? Ymweld a tai shit a bler yn lle yr arferol. Gan gymeryd popeth o ddifri, dead pan i'r comedi weithio.
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Rhys » Maw 25 Maw 2008 12:21 pm

Licio syniad yr edefyn. Bu rhywbeth tebyg yn seiat Menter a Busnes, ond gan mai i aelodau'n unig (croeso i bawb ymaelodi) mae hwnnw, ni fu llawer o drafod.
Enghraifft ddiwylliannol - Beth am ail-gydio mewn hen nosweithiau / diwrnodiau gwerinol, Noson Lawen heb S4C, fel y Fez Noz yn Llydaw.

Dwi heb fod i Fez Noz ond wedi clywed gan amryw sydd wedi eu bod yn wych. Mae yna wyliau dawnsio gwerin yn bodoli'n barod, Gwyl Ifan yng Nghaerdydd a Dawnsio Trwy'r Cwm yng Nghwm Rhymni ac hefyd Cwlwm Celtaidd ym Mhorthcawl sy'n cynnwys cerdd a dawns o'r gwledydd Celtaidd i gyd.
Mynnu arian cyhoeddus i ardaloedd allu trefnu noson / diwrnod eu hunain. Dim gwyliau mawr, jyst noswaith / dydd syml sy'n dod a'r gymuned at ei gilydd i ddathlu pethau ma nhw'n meddwl sy'n bwysig.

Yn bersonol, dwi'n meddwl bod pethau'n gallu gweithio'n well heb arian cyhoeddus - unwaith chi'n mynd yn ddibynnol arno, gallia pethau fynd yn tits up pan ddaw i ben (meddyliwch Y Byd, Gardd Fotaneg, Canolfan y Mileniwn...mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd). Wedi dweud hynny, mae yna gynlluniau ar gael i helpu tuag at ariannu digwyddiadau diwylliannol sef Noson Allan gan y Cyngor Celfyddydau. Mae yna hefyd ffynhonellau loteri fel Arian i Bawb. Yn anffodus mae lot o berfformwyr yn gweld Noson Allan fel esgus i ddyblu eu prisiau sy'n negyddu'r mantais i drefnwyr o gael rhwyun yn cyfor hanner y gost :?

Engrhaifft llwyddiannus o grwp lleol sydd wedi mynd ar ôl arian yw Cymdeithas Gymraeg Beddllwynog. Mae'nt wedi bodoli ers sawl blwyddyn gyda unigolyn gweithgar o'r enw Robert Hughes fel petai wedi cysegredu ei fywyd i ddysgu'r pentref i gyd i siarad Cymraeg - dwi'n meddwl ei fod o leaif hanner ffordd trwy wireddu'r dasg hyd yma! Ta waeth, sefydlwyd y Gymdeithas yn ffurfiol dy 'constitiwtiyn' ac mae nhw rwan yn gallu hel grantiau. Dyma nhw'n cael cryn tipyn (yn bennaf gan eu bod mewn ardal Cymunedau'n Cyntaf), ac o hyn mae nhw wedi ariannu llyfrgell fechan o lyfrau Cymraeg yn y ganolfan cymuned, ariannu trip penwythnos i ogledd Cymru i bobl ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch Cymraeg (mae nhw newydd ddod nôl yn un darn o Flaenau Ffestiniog) ac ar ben hyn i gyd, bydd gwyl gerddoriaeth 3 diwrnod o'r enw 'Bedroc' gyda Dafydd Iwan, Genod Drwg a Frizbee!.

Busnes asiantaeth deithio Gymraeg ar y we. Dwi byth am wneud o, ond dwi'n recno galla fo fod yn fusnes bach llwyddiannus.

Wedi ei anelu at ysgolion yn bennaf ond mae Hwyl a Fflag (enw gwych) yn trefnu tripiau ysgolion.
Asiantaeth newyddion annibynnol ar gyfer siaradwyr ieithoedd llai. Gallent gronni eu adnoddau a gyrru newyddiadurwyr i bob rhan o'r byd.

Eurolang?

Mae'r syniad 4wal am dai shit yn swnio'n ddelfrydol ar gyfer YouTube neu Sesh.tv- sgin ti gamera fideo?


Dau syniad sydd gyda fi yw gwefan i werthu llyfrau Cymraeg ail-law. Mae lot ar werth ar e-bay ac Amazon, ond rhaid gwneud lot o chwiliadau. Dwi'n siwr gelli'r defnyddio rhyw sustem CMS am-ddim i greu rhywbeth gweddol syml. Sgwn i os fyddai gan y pobl tu cefn i Y Caglwr ddiddordeb yn y syniad (ac hefyd fynediad i gymorthdal os ydynt yn elusen/gymdeithas)

Ail syniad, sy'n rhannol debyg i n Rhodi Nwdls, yw gwefan yn hyrwyddo cyrchfannau twrisitiaeth gwirioneddol Gymreig. Tydi'r Bwrdd Croeso gwenud fawr ddim o hyn, dim ond gwthio Cestyll Normanaidd (sydd yn drawiadol chwarae teg), ac mae gan Amgueddfa ac Orielau Cenedlaethaol Cymru yr adnoddau i hyrwyddo'i rhwydwaith ardderchg nhw o sefydlaidau. Y math o lefydd hoffen i'n cael eu hysbysebu yw llefydd fel:
Hanes Cymru
Senedd-dy Owain Glyndŵr
Canolfan a Gerddi Hywel Dda
Cilmeri
Ieithyddol/Cerddoriaeth Cymraeg
Pont Trefechan
Cwlb y Bont, Clwb Ifor Bach, Tŷ Tawe, Mochyn Du (fel llefydd i fynd tu allan i'r fro)
Adlonaint
Tŷ Siamas
Pentref Bach Sali Mali :D
Siopau Llyfrau Cymraeg

Dylai na fod un man yn hyrwyddo'r rhain i gyd, yn debyg i wefan Gwyliau Cymraeg sy'n rhestru gwestai ble mae'r staff yn siarad Cymraeg. Efallai gallai cyrchfannau o'r fath ddod at eu gilydd i ariannu'r peth. Yna yn hytrach na thalu am hysbysebion unigol yn Golwg/ ar maes-e, gallant ddod a'r arian hysbysebu i gyd at eu gilydd a'i ddefnyddio'n well.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Maw 25 Maw 2008 1:25 pm

Rhys a ddywedodd:Yn bersonol, dwi'n meddwl bod pethau'n gallu gweithio'n well heb arian cyhoeddus


Gwir, ond faint o'n trethi sydd yn mynd ar ryfel ac arfau (ayyb) i'w gymharu a canran o'n trethi ar gyfer pethau sylfaenol fel ewyllys dda sylfaenol ar gyfer pentrefi / trefi bach?
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Prysor » Maw 25 Maw 2008 3:52 pm

Reu Rhaw Gyffes a ddywedodd:Enghraifft ddiwylliannol - Beth am ail-gydio mewn hen nosweithiau / diwrnodiau gwerinol,


fel hyn

Roedd hi'n bangar o noson, pacd i'r tô - tim Fic Llithfaen v Criw Tangrish (yn cynrychioli Ring). Chwerthin, hwyl, canu, yfad, dawnsio...

'Sion Heiddyn' oedd y Cymry'n galw cwrw yn oes aur y baledwyr. Ewch ati i drefnu un yn lleol i chi.

Be neshi oedd herio tafarn Y Fic mewn cerdd ddychan, a'i gyrru atyn nhw. Gnewch y gerdd yn un na allan nhw wrthod yr her. Dilornwch nhw a tynnwch eu coes nhw ac ati, gan ddeud bod eich ardal chi bla bla yn well etc... Hen draddodiad Cymraeg ydi'r canu dychan (a'r glam dicin yn Werddon) sy'n mynd yn ôl i'r derwyddon. Canu/llafarganu cerddi yn erbyn rhywun, oedd yn gorfodi'r person/au hynny (boed frenin neu be bynnag) i ymateb drwy gyflawni'r gofynion yn y gerdd, neu cael ei wneud yn esgymun.

Eniwe - cael tim at ei gilydd, herio tim arall, cael gwobr/tlws i'r enillwyr, a Bob, neu Sion Heiddyn, di d'ewyrth! Mae isio petha gwerinol fel'ma yn bob man siwr! Rwbath cynhenid yn rhan o'n diwylliant poblogaidd cyfoes. Awe!

(Tip i chi - mae angan llai o rowndiau. Oedd genai ormod braidd!!!)


Eniwe - syniad arall...
Cael dathliadau ar gyfer y gwyliau Celtaidd Imbolc (Chwef 1), Beltan (Mai 1) a Samhain (Tachwedd 1) ac ati... Wedi nodi Imbolc eleni, ac wedi meddwl trio trefnu rwbath ar gyfer Beltan, gwyl Beli Mawr, ond fe ymddengys bod Stag Do cyfaill agos ar y penwythnos hwnnw (so much am fy ymroddiad i revivalism!!!).

Be amdani? Trefnwch rwbath - gig, parti, carnifal, hwylddydd, coelcerth - i ddathlu diwadd y 'misoedd tywyll' a dyfodiad yr haf!

Ewch i'r wê, neu i'ch llyfrgell, am eich gwybodaeth am y gwyliau. Teipiwch 'Beltaine' i mewn am ganlyniadau am Gwyl Beli Mawr.


Bangar o edefyn, Reu Llaw Gyffes!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan 7ennyn » Maw 25 Maw 2008 6:32 pm

:syniad:
Tafarnau symudol. - Hefo digon o le ar gyfer sioeau clybiau Bara Caws, eisteddfodau Sion Heiddyn a ballu. Mi fysa 'na 'dafarn yn nolrhedyn' yn achlysurol wedyn!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Ar Mada » Sul 17 Awst 2008 10:03 pm

Prysor a ddywedodd:Bangar o edefyn, Reu Llaw Gyffes!


Cytuno Prys!

Cyfle da i mi gael gwared o hwn: Os fyswn i efo mynadd a'r pres i brynu becws a gwneud bara gwych a'i ddatblygu'n gwmni mawr, fyswn i'n galw'r cynnyrch yn - 'Bara'. Y bara gorau yn y byd! Dwi byth yn mynd i ddechrau cwmni gwneud bara, felly mae croeso i unrhywun ddwyn y syniad. Dychmygwch cerdded mewn i siop yn Llundain, Caerdydd, Bala neu Yeovil (lle bynnag!) a gweld torthau (be ddiawl di mwy na un torth? dio ddim yn tyrth na di!?) efo'r enw 'Bara' arno, yn ymyl y rhai Hovis a ballu! Bydd pobl yr ynysoedd ma yn dweud bara am wel... bara! Mae o'n air hawdd iawn i'w enganu yn unrhyw iaith yndi.
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan sian » Sul 17 Awst 2008 10:10 pm

Ar Mada a ddywedodd:Mae o'n air hawdd iawn i'w enganu yn unrhyw iaith yndi.


Ydw i'n iawn i ddweud bod 'na fara Sbaenaidd o'r enw "barra"? O'n i'n meddwl mai gwneud ymdrech i siarad Cymraeg oedd y ferch yn Ultracomida yn Aberystwyth.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Kez » Sul 17 Awst 2008 11:03 pm

sian a ddywedodd: Ydw i'n iawn i ddweud bod 'na fara Sbaenaidd o'r enw "barra"? O'n i'n meddwl mai gwneud ymdrech i siarad Cymraeg oedd y ferch yn Ultracomida yn Aberystwyth.


Mae Una barra (de pan) yn ddarn hir o fara fel baguette.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Ar Mada » Llun 18 Awst 2008 11:41 am

sian a ddywedodd:Ydw i'n iawn i ddweud bod 'na fara Sbaenaidd o'r enw "barra"?


Enw'r cynnyrch 'lly? Ar y paced?
Cimwch?
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Mada
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Maw 22 Meh 2004 10:18 pm
Lleoliad: Mewn weiran

NôlNesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron