Rhannu Syniadau

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Rhannu Syniadau

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Gwe 21 Maw 2008 11:52 am

Oes rhywun 'rioed wedi meddwl am syniad gwych a sylweddoli bod gennyn nhw ddim yr amser na'r cyllid i'w wireddu?

Os nad ydych yn 'precious' am y syniad, beth am ei daflu mewn i'r edefyn hwn? Falle neith rhywun arall ei wireddu? A falle, rhyw ddydd, rhywsut, wneith yr holl syniadau unigryw gryfhau ein cenedl ar bob lefel (economaidd, diwylliannol ayyb), cenedl na fydd yn 'copio' syniadau gwledydd eraill. Deall? Infenshions, syniadau cynaliadwy, gwleidyddol, creadigol ayyb

Awe...
Golygwyd diwethaf gan Reu Rhaw Gyffes ar Gwe 21 Maw 2008 3:21 pm, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan ceribethlem » Gwe 21 Maw 2008 12:23 pm

Rhyw fath o Dragon's Den Cymraeg, ar y we?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Gwe 21 Maw 2008 3:34 pm

ceribethlem a ddywedodd:Rhyw fath o Dragon's Den Cymraeg, ar y we?


Ia a na, mwy eang na hynny. Mwy o fforwm syniadau.

Enghraifft ddiwylliannol - Beth am ail-gydio mewn hen nosweithiau / diwrnodiau gwerinol, Noson Lawen heb S4C, fel y Fez Noz yn Llydaw. Mynnu arian cyhoeddus i ardaloedd allu trefnu noson / diwrnod eu hunain. Dim gwyliau mawr, jyst noswaith / dydd syml sy'n dod a'r gymuned at ei gilydd i ddathlu pethau ma nhw'n meddwl sy'n bwysig. S'dim rhaid meddwl am hyn mewn ystyr hollol 'draddodiadol', gallwn ychwanegu pethau ol-fodernaidd iddo. Mynnu bod Cynghorau pob ardal yn normaleiddio hyn fel bod dim angen llewni ffurflenni di-ddiwedd i sicrhau cyllid sylfaenol. Carnifalau cynhenid! Ail-gydio yn ein hen arferion gyda agwedd cyfoes. Mae hyn yn 'norm' mewn nifer o lefydd ar y cyfandir. Fel gwlad, rydym yn dueddol o golli mwy a mwy o'n cenedlaethau i be sy'n ffasiynol yn y byd Eingl-Americanaidd.

Enghraifft o infenshion - Teclyn dal llyfr pan da chi yn y gwely (tra'n gorwedd ar eich ochr)??????????? Ma'n ddiawl o job troi'r tudalenau pan ma'ch partner yn trio cysgu!

Sgen i'm amser i wneud rhain, ond dwi fodlon i rywun ddwyn y syniadau a'u gwireddu os dy nhw eisiau.
Golygwyd diwethaf gan Reu Rhaw Gyffes ar Sul 23 Maw 2008 3:59 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Sul 23 Maw 2008 2:32 pm

Reu Rhaw Gyffes a ddywedodd:cenedl na fydd yn 'copio' syniadau gwledydd eraill


Reu Rhaw Gyffes a ddywedodd:fel y Fez Noz yn Llydaw


Swnio fel fy mod i'n gwrth-ddweud yn fan hyn. Falle mai cryfhau ein cenedl heb gopio phethau Eingl-Americanaidd dwi'n drio'i ddweud, yn ddiwylliannol felly. Pob drws yn agored gyda infenshions. Yn gyffredinol, unrhyw syniad gwreiddiol sy'n mynd i roi hwb, hyder ac wmff i'r Cymry yn y byd sydd ohoni!
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 23 Maw 2008 6:23 pm

WikiSyniadau! Iei!

:syniad:

Trawsnewid papurau bro i fod yn berthnasol ar gyfer yr 21ain ganrif.

Datblygu system ar-lein lle gall cymunedau sgwennu a recordio eu newyddion eu hunain mewn ffordd ddeinamig. Penodi golygyddion ar gyfer pob tref/cymuned i sicrhau cynnwys a chyfraniadau gan bobol a saethu fideos perthnasol. Ebostio newyddion allan bob wythnos. Rwbath fel y model Vilaweb yn Catalonia neu gylchgronnau Topagunea yng Ngwlad y Basg. Dydi jest syndicatio cynnwys i BBC lleol i mi ddim yn ddigon da, a ddim yn gynhaliol. Dyw'r BBC ddim yn gallu bod yn wirioneddol leol pa bynnag mor galad ma'n trio.

Datblygu gwasg leol berthnasol Gymraeg ar-lein sy'n gallu dechrau cystadlu gyda'r Cambrian News uffar a'i deip di-werth.

Yn angen: amser a cash hysbysebu a datblygu. Croeso i unrhywun redag efo'r syniad.

:syniad:

Busnes asiantaeth deithio Gymraeg ar y we. Dwi byth am wneud o, ond dwi'n recno galla fo fod yn fusnes bach llwyddiannus.

:syniad:

Gorsaf Radio Steddfod. Darlledu am wythnos ar drwydded RSL. Nesh i feddwl am hwn llynadd ond dwi fyth am gael yr amsar i'w wneud o leni nac yn y dyfodol.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan 7ennyn » Sul 23 Maw 2008 6:59 pm

:syniad:
Asiantaeth newyddion annibynnol ar gyfer siaradwyr ieithoedd llai. Gallent gronni eu adnoddau a gyrru newyddiadurwyr i bob rhan o'r byd. Byddai papurau newydd dyddiol yn yr ieithoedd llai wedyn yn gallu adrodd storiau newyddion o bwys heb orfod dibynnu ar ffynhonellau ail-law.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan Reu Rhaw Gyffes » Llun 24 Maw 2008 12:04 pm

Gwychder! Oes ma angen chwyldroi delwedd a chynnwys papurau bro yn bendant!

:syniad:

Nid fy mod i'n grefyddol na dim, ond mae angen troi holl gapeli ein broydd i adeiladau aml-ddefnydd, fel y bo' nhw'n cael defnydd drwy'r wythnos nid yn unig ar y Sul. Mae rhai wedi gwneud hyn yn barod, fel yn Caeathro? Ydi hyn yn wir? Rhaid i ambell bwyllgor/blaenoriaid (pwy bynnag sy'n berchen y capel) agor eu llygadau i'w cymunedau a sylweddoli bod yr adeilad enfawr anghygoel 'ma ( sy'n llawn potensial, sy'n tampio, ac yn edrych fel...... er..... hen gapel nad oes neb yn mynd iddi!) yn gallu bod o ddefnydd i unrhywun. Wrth gwrs, y capel sydd a blaenoriaeth iddi ac yn cynnal y cwrdd bob d.Sul fel arfer, jyst bod pobl o unrhyw ffydd / gred yn cael defnydd ohono. Dwi'n tybio bydd hyn yn hwb enfawr i gymunedau (yn enwedig rhai 'di-freintiedig) ac yn gallu cynnig gwell adnoddau na'r ysgol gymunedol arferol (o'r rheini bydd ar ol!). Yn gyffredinol, mi fydd hyn yn ffordd syml o gynnal hen adeilad gymunedol a falle'n stopio'r adeilad fynd i ddwylo ariannog di-egwyddor / di-glem.
Dwi'n siwr y bydd Duw a'r Iesu yn iawn efo hyn! :)
Reu Rhaw Gyffes
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Mer 19 Maw 2008 12:22 am

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan sian » Llun 24 Maw 2008 2:05 pm

Reu Rhaw Gyffes a ddywedodd:mae angen troi holl gapeli ein broydd i adeiladau aml-ddefnydd, fel y bo' nhw'n cael defnydd drwy'r wythnos nid yn unig ar y Sul. Mae rhai wedi gwneud hyn yn barod, fel yn Caeathro?
Dwi'n siwr y bydd Duw a'r Iesu yn iawn efo hyn! :)


Siwr byse Duw a Iesu wrth eu bodd - ond beth am CADW?
Na, syniad da, ond dw i ddim yn siwr pa mor ymarferol yn y rhan fwyaf o achosion.
Os dw i wedi deall yn iawn, roedd Caeathro'n gallu cael grantiau am nad oedd canolfan gymuned arall yn y pentre ond mae 'na neuaddau pentref yn yn rhan fwyaf o bentrefi ac felly fyddai ddim grantiau i'w cael.
Mae'r rhan fwyaf o gapeli'n hollol anaddas ar gyfer defnydd aml-bwrpas - a hyd yn oed pe bai CADW'n caniatau i chi eu haddasu nhw - byddai'n costio ffortiwn ac mae llawer o gapeli'n cael trafferth talu'r ffordd fel y mae.
Ond mae yn syniad da - swn i'n licio gwneud rhywbeth fel hyn yn ein capel ni - cael sesiynau mam a'i phlentyn, te pensiynwyr, lle i bobl ifanc chware pŵl etc - ond mae'n rhaid i ti gael yr aelodau i gytuno - a dydi hynny ddim bob amser yn hawdd!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan 7ennyn » Llun 24 Maw 2008 2:29 pm

Adeiladwyd lot o'r capeli mawrion gan yr un gangiau a oedd yn adeiladu ystordai yn ardaloedd dociau Lerpwl, Manceinion, Caerdydd a.y.y.b. Roedden nhw yn gallu codi adeiladau mawr yn gyflym ac yn rhad. Unedau diwydiannol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hefo trimings ydyn nhw. Cwic ffics oedden nhw ar y pryd, a dwi'n siwr nad oedd yr adeiladwyr yn cynnig warranty hir iawn ar eu gwaith.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Re: Rhannu Syniadau

Postiogan sian » Llun 24 Maw 2008 2:58 pm

7ennyn a ddywedodd:Cwic ffics oedden nhw ar y pryd, a dwi'n siwr nad oedd yr adeiladwyr yn cynnig warranty hir iawn ar eu gwaith.

Ond maen nhw'n dal yma ganrif yn ddiweddarach ac yn dipyn o faen melin o gwmpas ein gyddfau ni. Mae'r gwaith coed yn llawer ohonyn nhw'n werth chweil - ac mewn cyflwr da.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron