gan aled g job » Sad 29 Maw 2008 2:00 pm
Tydw i ddim yn hoff iawn o gynhyrchiadau Bara Caws fel arfer gan mod i'n teimlo bod yna ormod o orchest ynghylch bod yn feiddgar a dichwaeth yn eu gwaith. Ond rhaid deud mod i'n falch mod i wedi gweld y ddrama hon yn Theatr Gwynedd yr wythnos hon. Roedd y teitl ei hun "Y Gobaith a'r Angor" ( o'r Llythyr at yr Hebreaid: Y Mae'r Gobaith hwn gennym fel angor i'n bywyd, un diogel a chadarn) yn awgrymu y byddai tipyn mwy o ddyfnder i'r cynhyrchiad hwn, ac felly y buodd hi.
Ar yr olwg gyntaf, efallai ei bod yn anodd gweld hynny gan fod yr iaith yn liwgar iawn a dweud y lleiaf, a'r gwamalu cyson rhwng y cymeriadau yn nhafarn y "Ship and Anchor" yn peri sawl ebychnod o anghyffyrddusrwydd neu anghymeradwyaeth o du'r gynulleidfa ganol oed gan a hyn oedd yn y theatr nos Iau. Ond, wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, roedd y themau crefyddol yn cryfhau: y chwilio am ystyr ynghanol undonnedd bywyd, cymdeithas y saint( sef selogion y dafarn fan hyn) fel lloches rhag stormydd y byd, a'r dyheu parhaus am well i ddod. Mi wnaed hyn yn gynnil iawn gan yr awdur, Dylan Rees, ac mi ddylid ei longyfarch ar greu drama mor afaelgar, a hynny ar ei gynnig cyntaf. Dwi'n meddwl fod ganddo glust dda am dinc a ruthm iaith pobl a'i gilydd, ond ron i hefyd yn hoff iawn o'i barodrwydd i adael saib go hir rhwng deialog ar brydiau er mwyn cyfleu'r gwacter yr oedd pob un o'r cymeriadau yn brwydro yn ei erbyn.
Fel y dywedodd Sian, mi roedd y cymeriadau yn taro deuddeg ac mi oedd rhywun yn malio amdanyt a'u treialon. Ac o gofio mai astudiaeth o bersonoliaethau unigol a'u hymwneud a'i gilydd oedd hanfod y ddrama yn hytrach na drama yn seileidig ar stori fel y cyfryw, roedd hynny yn holl bwysig. Efallai bod angen mymryn mwy o densiwn dramatig nag a gafwyd ond mae'n debyg mai isio jam arni ydw i wrth ddeud hynny.
Ro'n i'n meddwl bod Dyfrig Evans( Arfon) yn arbennig. Roedd yr ystumiau a'r iaith corff a ddefnyddiai i gyfleu ansicrwydd a galar ei gymeriad hoffus yn wych, ac fe roedd ganddo linellau gwirioneddol ddoniol hefyd e.e
Beatrice y Barmed yn gofyn iddo: "Be ti di brynu i dy gariad fel presant Dolig?"
Arfon: "Syrpreis"
Beatrice: "Be felly?"
Arfon: "Dwi'm yn gwybod eto!"
Ac imi uchafwbwynt y ddrama oedd yr olygfa honno ohono fo a Daniel(Huw Llyr) yn trafod eu gofidiau dros fotel o sheri ac yn dyfalu am y byd a ddaw ar lannau'r Fenai. Mi roedd yna ddyfyniad Ffrangeg effeithiol iawn yn rhan o hynny, oedd yn pwysleisio'r dyhead angerddol y cymeriadau am y newydd- oes rhywun yn gwybod o ble mae'r dyfniad hwnnw yn dod??
Aled G Job