Siarc Marw 6 - allan nawr

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Dwlwen » Mer 16 Ebr 2008 11:58 am

Delwedd

Iep, ma'r rhacsyn ar droed unwaith eto...

Yn y rhifyn hwn:
- Sgwrs gyda'r delynores Georgia Ruth Wiliams
- Emyr Ankst yn son am noson ffilmiau Datblygu 'Y Llwch ar eich Sgrin'
- Cyfweliad â Catrin Dafydd am 'Random Deaths and Custard'
- Yr artist !!Arth!! yn son am ddwdls a'r hyn sy'n ei ddylanwadu
- Tips Huw Evans a Dyl Mei ar gyfer eich casgliad vinyl Cymraeg...
- ...a mwy o hwyl gyda vinyl ar ffurff 'Sleeveface'
- Cyfweliadaua gyda Ed Holden, Nic Dafis, ac Owain Llyr am blethora o bethau
- Erthyglau am fasnach deg ym myd ffasiwn, ac ymateb un darllennydd i rali 'Dathlu'r Gymraeg'
- ac wrth gwrs yr adolygiadau a'r mwydrings arferol.

Mae Siarc Marw 6 ar gael nawr AM DDIM! - Os 'dych chi eisiau copi, gyrrwch eich cyfeiriad i siarcmarw AT yahoo DOT co DOT uk, ac fe wnawn ni'r gweddill.
Os 'dych chi yng nghyffiniau Caerdydd a methu aros am y post, bydd y ffansin ar gael yn gig 'stafell fyw ym Muffalo Caerdydd nos Iau yma - a bydd copiau ar gael o Spillers a Caban yn y man hefyd...
Gyda help ein corachod ar hyd a lled y wlad, mae'n debyg bydd y ffansin ar gael o ganolfannu erill yn fuan hefyd - gwyliwch y gofod yma am fanylion pwy i hasslo yn eich ardal chi (neu, gyrrwch neges breifat os allwch chi ddosbarthu cwpwl o gopiau...)

Aeth y Siarc arall i stiwdios Bandit ddoe i son wrth y Huwiau am anturiaethau'r 6ed rhifyn... Bydd hynny ar y telibocs nos Iau nesa (24ain) - felly digon o amser i chi ffans Crid Bowen Phillips i setio'r skyplus.

Dyna ni am y tro. Diolch am ddarllen :D
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Dwlwen » Maw 22 Ebr 2008 12:02 pm

Pentwr o rhain wedi mynd lan sia'r Gogledd ddoe (diolch Mihangel)... Meddwl byddan nhw'n ymddangos yn Galeri Caernarfon, a Cob Bangor yn fuan.

Yng Nghaerdydd - ma Siarc Marw bellach ar gael o Caban, Spillers, a Cafe Europa...

Ac ym Mhen Llyn - gobeithio byddan nhw'n cyrraedd Ty Newydd Sarn a Llen Llyn erbyn diwedd yr wythnos.

Dwi'n *meddwl* bod pentwr bach wedi cyrraedd Andy's yn Aberystwyth erbyn hyn, a dwi'n sicr bydd copiau ar gael yn noson Datblygu yn y Drwm nos Wener 'ma.

Dyw'r Siarc heb fentro rhyw lawer i'r Gorllewin 'to, felly os hoffe rhywun ddosbarthu draw ffor'ny rhowch showt :)
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 22 Ebr 2008 12:06 pm

ymateb un darllennydd i rali 'Dathlu'r Gymraeg'


Wedi darllen hwn, rhydd ei bawb ei farn, ond cachgi am beidio ei gyhoeddi dan ei enw. Gas gen i bobl felly, pathetic :drwg:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Ray Diota » Maw 22 Ebr 2008 12:09 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
ymateb un darllennydd i rali 'Dathlu'r Gymraeg'


Wedi darllen hwn, rhydd ei bawb ei farn, ond cachgi am beidio ei gyhoeddi dan ei enw. Gas gen i bobl felly, pathetic :drwg:


hisht, wiliam!
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 22 Ebr 2008 12:15 pm

Ray Diota a ddywedodd:
hisht, wiliam!

:D
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Ray Diota » Maw 22 Ebr 2008 1:20 pm

dwlwen... ddoi di a chopi lan ifi wicend?* ffancs.












*yw hyn yn neud e swnio fel bo fi'n mynd mas 'da dwlwen? ydi? gwd.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Dwlwen » Maw 22 Ebr 2008 1:36 pm

Ray Diota a ddywedodd:dwlwen... ddoi di a chopi lan ifi wicend? ffancs.

Ddyle fod copis yn eich ty chi ishws - rhoies i nhw i'r better half nos Iau*, ond bydd rhagor 'da fi wicend.





*Gymri di awgrym o ffling 'da Winwns hefyd? Wy'n falch o helpu 'neud i ti swnio'n desirable... er, mae'n waith anodd :winc:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Siarc Marw 6 - allan nawr

Postiogan Ray Diota » Maw 22 Ebr 2008 4:01 pm

Dwlwen a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:dwlwen... ddoi di a chopi lan ifi wicend? ffancs.

Ddyle fod copis yn eich ty chi ishws - rhoies i nhw i'r better half nos Iau*, ond bydd rhagor 'da fi wicend.





*Gymri di awgrym o ffling 'da Winwns hefyd? Wy'n falch o helpu 'neud i ti swnio'n desirable... er, mae'n waith anodd :winc:


joio!

diolch cariad
xxxxx
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron