Siwan

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Siwan

Postiogan Deiniol » Llun 12 Mai 2008 7:06 pm

Wedi bod yn gwylio perfformaid Theatr Genedlaethol Cymru o Siwan yn Theatr Gwynedd wythnos diwetha'. Mae'n rhaid i mi ddeud na ches i fawr o wefr o wylio'r perfformaid er fod Ffion Dafis yn dda fel Siwan. Roedd y set yn ddi-ddychymyg a perfformiad Rhys ap Hywel fel Gwilym Brewys yn wan. Be di barn pawb arall?
Deiniol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 48
Ymunwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:34 am

Re: Siwan

Postiogan sian » Llun 12 Mai 2008 7:34 pm

Fe ges i flas ar y perfformiad yn enwedig y rhan ddiwetha gyda Siwan a Llywelyn.
Jason Pobl y Cwm oedd Jason Pobl y Cwm. Doeddwn i ddim yn deall pob gair gan Alys, yn enwedig ar y dechrau.
Ro'n i'n licio'r set a'r gerddoriaeth.
Do'n i ddim yn cofio bod Saunders cystal dramodydd. Licio'r one-liners. Ydi hon yn un o'r goreuon?

Dwy fenyw grand yn eiste ar fy mhwys i wedi parablu trwy'r holl beth. :drwg:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Siwan

Postiogan dawncyfarwydd » Llun 12 Mai 2008 7:58 pm

O'n i'n meddwl ei fod o'n ffantastic - es i nos Ferchar a mynd nôl nos Wenar am fod o cystal.

Oes 'na ddrama well na hi yn Gymraeg? Dwi ddim yn meddwl; yn bendant does 'na ddim cymeriad gwell wedi'i greu na Llywelyn. Pam nad 'Llywelyn' ydi'i henw hi? Ei ddrama o ydi hi, nid un Siwan, ac mae'i gymhlethdod a'i gariad anghyfleus ond angerddol o'n un o'r petha mwya dirdynnol dwi erioed wedi'u gweld yn cael eu cyfleu. Ma gen y ddrama areithia anhygoel, cymeriada dyfn a chymhleth, mae hi'n defnyddio cyffyrddiadau o athroniaeth yn jyst reit, ac mae hi'n stori garu (S-Ll hynny ydi) ddiflas ar un ystyr sy wedi'i throi yn glasur o emosiynau dynol gan gyfuniad o fydryddiaeth anhygoel a gwelediad clir o'r bobl hanesyddol hyn fel jyst pobol.

Ta beth...o ran y cynhyrchiad, dwi'n credu bod dienyddiad Gwilym Brewys yn yr un lîg â hunanladdiad Adlof Hitler o ran marwolaethau cynnar ffodus. Mi oedd Jesyn yn warthus - dwi'm yn licio bod yn gas achos gen y boi deimlada fel pawb arall ond mi oedd o'n amaturaidd, dwi'm yn gwbod be oedd ym mhen y castwyr ac mi oedd o'n berfformiad (os hynny) uffernol. Mae'n warth gwirioneddol ei fod o'n rhan o'r cynhyrchiad. Grr, grr, teirgwaith grr.

Ac mae hynny'n biti mawr oherwydd dwi'n meddwl bod y tri arall yn berffaith i'w rholiau -

Lisa Jên yn dal Alys yn hollol iawn - ddim yn tynnu sylw ati'i hun fwy nag oedd angen i wneud i'n calonna ni doddi, perfformiad prydferth iawn o hogan ifanc gyffredin wedi'i dal yn stafelloedd gwladweinyddion. Rhan syml ond eitha anodd i'w chael yn iawn ond...bull's eye, besicli.

Nes i glywed tipyn o bobl yn bod braidd yn sbeitlyd o amheus o gastio Ffion Dafis fel Siwan. Dwi'm yn gwybod oedd na unrhyw reswm am hynny heblaw rhyw snobyddiaeth eitha od, oherwydd allwn i ddim meddwl am unrhyw un well i bortreadu dynes y mae ganddi rwystredigaeth am mai'r cwbl mae ei gŵr yn ei roi iddi ydi ehangder swydd i'w hymennydd - ond sydd eto wedi caledu gormod i weld mai hynny oedd addoliad Llywelyn ohoni a'i ffordd gwrtais o ddangos ei gariad. Ac yn gymysg â hynny, dangos ei dyhead hi am wylltineb Gwilym Brewys (job anodd a fynta mor atyniadol â thyrci...ond hisht). Mi lwyddodd yn ardderchog.

Ma Dyfan Roberts jyst yn ffantastic. Tasa fo'n gallu colli'i acen Sir Drefaldwyn a siarad Susnag Posh fysa fo'n wych yn gneud mawrion Shakespeare. Ond gawni jyst diolch fod o'n camu efo'r meidrolion yn Theatr Gwynedd ar hyn o bryd. Mi ddaliodd o Llywelyn yn berffaith - dim un frawddeg na phwyslais o'i le. Ok, ok oedd o chydig bach yn fyr ac yn edrach fel tipyn bach o idiot yn y dillad milwrol 'na, ac yn gweiddi gormod, yn yr olygfa gynta - ond nid duw duw Bendigeidfran In Love sgwennodd Saunders ond drama am ddyn sy er ei holl awdurdod a'i rym milwrol wedi'i lorio gan gariad, dyn y mae'i genfigen wedi ei wneud yn bathetig a ridiciwladwy. Does dim angen deud bod ei areithiau o'n orchestol o sensetif a gwych. Ma presenoldeb y boi ar lwyfan jyst yn aruthrol, ac mae'i ddeallusrwydd a'i synnwyr o o sut i ddeud a gneud rhwbath efo'r gorau.

So tasan ni wedi cael Ioan Gruffydd yn chwara Brewys, sa fo'r cast mwya ffenomenal erioed. One can dream.

O'n i'n licio'r set, yn rhyfadd iawn, achos fel arfar dwi'm yn licio bwlshit - o'n i'n meddwl bod hi'n gweithio, yn syml iawn. Ac mewn drama radio mi oedd y pyrsbecs ("Well, Colin," meddwn wrth y dylunydd, "I was thinking perspex." "Well that's lucky Judith, 'cause I was thinking perspex too.") yn briliant am fod ei ddrychrwydd a'i dryloywder cyfnewidiol o yn ei gwneud hi'n bosib creu rhai petha pur-theatrig. Fatha'r thing ysbryd yn dawnsio 'na - y peth gora nath Jesyn drw nos oedd cerddad ar draws y llwyfan tu ôl i'r pyrsbecs. A'r llinella hyfrydliw na arno fo reit ar y diwadd - prydferthwch pur. Mi fasa'i chodi hi o'i chyfnod mewn ffordd mor blatant o 'arbrofol' wedi gallu bod yn ddisasdyr, ond doedd o ddim diolch byth. O ran y miwsig...wel mi oedd werth cal y syna gwirion elictronic na jyst er mwyn y newid i'r gerddoriaeth glasurol wrth i Lywelyn gloi'r ddrama.

Y peth pwysica i'w ga'l yn iawn wrth gynhyrchu Siwan, wrth gwrs, ydi'r "SIWAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAN". Doedd o ddim yn dda iawn, ond mi basiodd. Doedd dim angan rhoid eco arno fo aballu, ynghanol y miwsig letrig gwirion mi fysa gwaedd ddigwafars wedi bod yn ffantastic. Ond mi faddeuwn.

Cynhyrchiad eithriadol deilwng o ddrama fwya gorchestol, amesing, briliant, ysgytiol, dirdynnol, class ayyb y Gymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Siwan

Postiogan Macsen » Llun 12 Mai 2008 8:27 pm

Heb ei gweld hi, ond mond wedi clywed pethau da.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Siwan

Postiogan sian » Llun 12 Mai 2008 9:15 pm

O ie, do'n i ddim yn meddwl bod y "SIWAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAN" wedi gweithio chwaith.

Adolygiad yma
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Siwan

Postiogan Macsen » Llun 12 Mai 2008 9:29 pm

Beth am Brian Blessed fel Gwilym Brewys? Dyna fyddai'r 'SIWAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAAN' orau erioed.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Siwan

Postiogan osian » Llun 12 Mai 2008 9:50 pm

Oni'n meddwl bod y SIWAAAAAAAAAAAAAAAN yn olew.
Be o'dd ddim yn olew odd y ffordd y dudodd Siwan y lein "FY MELLTITH ARNAT LLYWELYN" mewn sgrech annealladwy, na'th neud i hogan fach tu ol i mi sibrwd yn uchel "be sy'n digwydd iddi?"
chesh i mo 'fargyhoddei o gwbl gan GB chwaith. Na gan y goban oedd Llywelyn yn wisgo yn act 3.

FEL ARALL...

o'dd o'n dda iawn, iawn. Lot yn well nag o'n i wedi ddisgwl. o'dd y set yn effeithiol a'r cysylltu golygfeydd. 'sa nhw di cael GB gwell, fysa 'di bod gystal ag oedd esther.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Siwan

Postiogan Mistar Ti » Llun 12 Mai 2008 11:13 pm

esi draw i Theatr Gwynedd nos Iau i weld Siwan - rhaid dweud - doni ddim rhu impressed chwaith! Ond bosib iawn mai fy nisgwyliadau i oedd rhu uchel (yr heip yn Golwg / Wedi 7 / Sioe Gelf). Fe basiodd amser - ond baswn i heb dalu i'w weld o eto!

Ffion Dafis yn dda iawn chwarae teg - ddim 100% yn siwr o weddill y castio - ond barn bersonol eto!!!

Ar nodyn hollol wahanol - be sy'n digwydd i Theatr Gwynedd o fis Hydref 'maen? Ydi nhw'n rhoi'r ffidil yn y to (fel soniodd rhywyn yn y bar nos Iau), neu fydda nhw'n cydweithio gyda theatrau eraill / canolfannau eraill i roi perfformiadau 'mlaen??
I aint gettin on no plane!
Mistar Ti
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2008 9:37 pm
Lleoliad: C'narfon (ar hyn o bryd)

Re: Siwan

Postiogan ffwrchamotobeics » Maw 13 Mai 2008 1:25 am

Macsen a ddywedodd:Heb ei gweld hi, ond mond wedi clywed pethau da.


A fi, ond heb y pethe da
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: Siwan

Postiogan Deiniol » Maw 13 Mai 2008 9:16 pm

Gorfod cytuno ag Osian roedd gwisg Llywelyn yn Act 3 yn od iawn. Allwn i ddim peidio meddwl ei fod o wedi gwisgo mwy fel gof na thywysog. Dwi'n derbyn ella fod yna fwriad i wneud iddo ymddangos yn wylaidd ond doedd o ddim cweit yn gweithio i mi.
Deiniol
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 48
Ymunwyd: Mer 02 Ebr 2008 10:34 am


Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron