Dyfodol Theatr Gwynedd??

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan Mistar Ti » Llun 30 Meh 2008 3:15 pm

TG yn cau mis Hydref - pawb yn colli swyddi! Wel am lanast!!!
I aint gettin on no plane!
Mistar Ti
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2008 9:37 pm
Lleoliad: C'narfon (ar hyn o bryd)

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 30 Meh 2008 4:32 pm

O diar. Ma hynna'n drist iawn. Fydd na rwbath yn ei le fo dwch? Shwrli ellith Bangor ddim bod heb ganolfan celfyddyda o ryw fath?

Sna nunlla i wylio ffilmiau o gwbl ym Mangor rwan felly! Ma hynna jest yn boncyrs.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan Mistar Ti » Llun 30 Meh 2008 11:47 pm

son ers blynyddoedd bod multiplex cinema am godi ym mangor (unai ffordd farrar neu ar stad ddiwydianol llandygai) - tasn hynny - draw i Galeri i weld y ffilmiau yno - ffilmiau safonnol (dim dy sothach Wil Smith and co)
I aint gettin on no plane!
Mistar Ti
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 28
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2008 9:37 pm
Lleoliad: C'narfon (ar hyn o bryd)

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 01 Gor 2008 8:22 am

Mistar Ti a ddywedodd:son ers blynyddoedd bod multiplex cinema am godi ym mangor (unai ffordd farrar neu ar stad ddiwydianol llandygai) - tasn hynny - draw i Galeri i weld y ffilmiau yno - ffilmiau safonnol (dim dy sothach Wil Smith and co)


Y cynlluniau diweddara yw fod Ciniworld am godi lle tebyg i Junction ar y stretch o dir sy rhwng Borth a Llanfair PG. Mae'r cynlluniau yn cael eu hasesu gan gynghor Môn ar hyn o bryd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan HuwJones » Gwe 11 Gor 2008 2:45 pm

Eitem arall yn y newyddion heddiw yn cadarnahu bod Theatr Gwynedd ar fin cau a bod perygl i'r staff colli eu gwaith.

Mae pawb yn yr ardal yn teimlo'n bechod mawr dros y staff a sut maen nhw'n cael eu trin a chadw yn y tywyllwch am eu dyfodol.

Dwi'n poeni'n ofnadwy am Fangor - dwn i ddim beth sy'n digwydd? Tydy o ddim yn lle mawr ond mae'r Sinema, Amgueddfa, Swyddfa'r Post, Theatr, Undeb Myfyrwyr a chae Peldroed ar fin diflannu neu wedi mynd yn barod. Heb son am nifer o siopau (fel y siop lyfrau), gwestai a pybs i adio at y rhestr.

Mae hefyd nifer o gynlluniau ar gyfer rhagor byth o fflatiau moethus yn nifer o lefydd rownd y dref a'r Borth, hefyd cynlluniau am Farina moethus yn Hirael.

Rydan ni'n byw mewn oes pryd mae pobol yn reit apathetic a ddim yn cymryd rhan yn pethe ond dwi dall ddim yn deall pam does na ddim ymateb cryfach gan bobl yn flin am eu tref yn cael ei newid mor sydyn - er les datblygwyr, adeiladwyr, sefydliad addysgiadol ac archfarchnadoedd ac ar ar draul y gymuned.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan digon » Sad 12 Gor 2008 1:16 pm

Diddorol oedd gweld y newyddion a darllen y Daily Post am saga Theatr Gwynedd. Od hefyd gan fod y staff yn gwybod ers misoedd am y diswyddiadau, maent hyd yn oed yn gwybod faint o 'redundancies' y maent am eu derbyn ( sydd yn pathetig o gofio eu bod wedi bod yno ers cyhyd). Pam nad yw'r Bwrdd Rheoli am ymateb i'r wasg? Pam bygwth y staff os ydyn nhw'n siarad gyda'r wasg? Pam defnyddio'r undebau fel esgus i ddileu rhoi datganiad, er bod yr undebau wedi bod yn cynnal 'consultations' ers misoedd ynglyn a'r diswyddiadau a.y.y.b. Pam wnaeth y wasg ddim dilyn i fyny datganiadau anfonwyd gan yr undebau? Nid yw'r Bwrdd gyda profiad theatrig proffesiynol o gwbl (heblaw am un dyn sydd wedi bod yn absennol o gyfarfodydd oherwydd salwch cymar) ac maent wedi gwrthod barn a chyngor gan rai profiadol tra'n llyncu'r hyn ddaeth o gyfeiriad y brifysgol. Pam cytuno i gau a dymchwel y Theatr (Ionawr 2009 gan Porthmadog Demolition) tra bod yr undeb drws nesa yn cael llonydd am flwyddyn academaidd arall os nad dwy? Mashiwr mai iechyd a diogelwch fyddai'r esgus pathetig, ond byddai mond yn costio £300K i gael y theatr i fyny i 'scratch', FFAITH. Cywilydd ar y bwrdd! Os fydd y theatr yn cael ei dymchwel a'r 'feasibily study' yn negyddol mae'n bosib na fydd theatr ym Mangor eto. BWRDD RHEOLI THEATR GWYNEDD YN UNIG FYDD I'W FEIO AM HYN, FFWL STOP!
digon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 14 Mai 2008 6:51 pm

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan digon » Sad 12 Gor 2008 1:21 pm

'feasibility study' dwi'n olygu yn y neges uchod ddim 'feasibily study'!
digon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 5
Ymunwyd: Mer 14 Mai 2008 6:51 pm

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan hapi hipi » Maw 29 Gor 2008 2:29 pm

Da chi'n anheg iawn a'r bwrdd. Ma nhw di ceisio codi digon o arian i dalu pensiynnau ag arian diswyddo'r staff - a'r holl ma nhw di cael amdano ydy abiws!
hapi hipi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Maw 29 Gor 2008 2:11 pm

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan ger4llt » Llun 29 Medi 2008 4:11 pm

O'r diwadd, ma' Prifysgol Bangor wedi rhyddhau syniad o be' fydd yn cael ei godi ar safle'r Theatr a'r Undeb Myfyrwyr ar ôl iddo gau mis Hydref. linc

Delwedd

Edrych fel fasa fo'n ddigon deniadol, er nad ydi o'n cynnig llawar mwy o gyfleustera na Theatr Gwynedd - "cyfleusterau celfyddydau amgenach o lawer ar gyfer yr holl gymuned gan gynnwys theatr, darlithfeydd, mannau arddangos, bar a chaffi", er, mashwr fydd dros ddwbl nifer y seddi yn y theatr newydd (900) yn dipyn o hwb (wrth uno'r ddarlithfa â'r brif theatr). Felly nifer o flynyddoedd i Fangor heb unrhyw fath o theatr na Undeb Myfyrwyr fydd hi wan... :rolio:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Dyfodol Theatr Gwynedd??

Postiogan Garnet Bowen » Mer 22 Hyd 2008 11:13 am

digon a ddywedodd: Pam cytuno i gau a dymchwel y Theatr (Ionawr 2009 gan Porthmadog Demolition) tra bod yr undeb drws nesa yn cael llonydd am flwyddyn academaidd arall os nad dwy? Mashiwr mai iechyd a diogelwch fyddai'r esgus pathetig, ond byddai mond yn costio £300K i gael y theatr i fyny i 'scratch', FFAITH. Cywilydd ar y bwrdd! Os fydd y theatr yn cael ei dymchwel a'r 'feasibily study' yn negyddol mae'n bosib na fydd theatr ym Mangor eto. BWRDD RHEOLI THEATR GWYNEDD YN UNIG FYDD I'W FEIO AM HYN, FFWL STOP!


Er mwyn cadw Theatr Gwynedd yn agored, byddai'n rhaid gwario £600,000 ar adnewyddu'r adeilad. Hynny yw, gwario £600,000 ar adeilad sydd yn mynd i gael ei ddymchwel. Oes 'na unrhyw un yn ei lawn bwyll sydd yn credu bod hyn yn ffordd dderbyniol o wario arian cyhoeddus?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron