gan digon » Sul 18 Mai 2008 12:05 pm
Mistar Ti, er dy fod yn llygad dy le, mae'r sefyllfa'n dipyn gwaeth na ti'n feddwl!
Yn anffodus mae'r manylion mae Rhys Llwyd yn gyfeirio ato yn hen ac mae pethau wedi symud ymlaen ers talwm.
Mae'r rhestr o ganolfanau a restrwyd uchod heblaw Feniw, Llandudno yn hollol anaddas ar gyfer perfformiadau o faint a safon theatr genedlaethol, clwyd a llawer o gwmniau proffesiynol eraill (cymraeg a saesneg) sy'n arfer ymweld a theatr gwynedd. Byddai rhai o'r sioeau bach yn gallu mynd i galeri a pwllheli. Ni fyddai llefydd addas i sioeau ysgolion, coleg menai a'r cwmniau cymunedol amatur niferus (rhai o'r rhain wedi trio perfformio yn galeri ond ddim am fynd yn ol oherwydd diffyg lle). Lle mae jp/pj yn y cwesiwn - mae un, yn ol dwi'n ddalld ,yn cael ei addasu ar gyfer multi-media felly byddai'n rhy fach ac yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr trwy'r adeg, ac mae'r llall yn llawer rhy gostus i'w addasu ar gyfer perfformiadau theatr proffesiynol (hyn yn wir am weddill y canolfanau sydd ddim yn theatrau proffesiynol yn barod).
Mi fydd llawer o bobl yn colli allan ar gyfleusterau theatr gwynedd o Hydref, 2008 ymlaen gan nad oes darpariaeth a chynlluniau pwrpasol positif wedi'i rhoi mewn lle i gario'r rhaglen ymlaen mewn canolfan wedi'i haddasu'n bwrpasol tan bo'r ganolfan newydd yn cael ei hagor!!!!