Wes rhywun wedi clywed am y ‘side effects’ allwch chi gal gyda’r gwm cnoi ‘na man nhw’n gwerthu fel rhan o'r nicotine replacement therapy.
Ges i alwad ffôn wrth ffrind fi Prunella Plumm wthnos ddwetha ar ôl iddi dreulio’r noson gyda’r boi ‘ma o Ffostrasol; wedd y boi hyn wedi bod yn iwso’r gwm cnoi nicotin ‘ma a phan wen nhw’n cusanu, wedodd Prwni bod blas y gwm yn ei geg e wedi gneud i’w cheg hi bigo. Dyma hi’n gweud wedyn bod y boi’ ma wedi mynd i lawr arni yn y gwely a ‘nath ei chorff hi dwymo lan fel ‘pin ball machine’ a’i llyged hi bron â chwmpo mas - orgasms un ar dop y llall - medda hi. Yn y bore, we rhaid iddi ddala tacsi gitre – wedd hi’n ffilu rhoi un droed o flaen y nall.
Ma ddi wedi gweud am hyn wrth y merched i gyd yn Nyffryn Teifi a chredwch chi ne bido ond maen nhw wedi gwerthu mas o’r gwm cnoi nicotin ‘na i lawr yn Boots Caerfyrddin. Brynes i baced mawr am £19.99 ifi fy hunan ac roedd Prwni yn gweud calon y gwir am yr effeth. Bydd Gaz (sboner fi) yn lwcus i weld gole dydd sbo’r paced yn bennu – alla i weud hwnna wrthach chi nawr
Pwy sa’n meddwl byse rhoi’r gore i smoco yn gymaint o sbort