Tudalen 1 o 1

Trafaelu ar y Trên Glas

PostioPostiwyd: Mer 21 Mai 2008 11:57 am
gan sian
Oes rhywun wedi gweld hwn?
Hanner whant arna i fynd - ond bod gen i gant a mil o bethau eraill eisiau eu gwneud.
Be 'wna'i?

Re: Trafaelu ar y Trên Glas

PostioPostiwyd: Mer 21 Mai 2008 3:23 pm
gan Llefenni
Di hwn yn rw euphemism am tripio ar LSD? Damia dwi'n slo i gadw fyny efo'r kids ifanc yma a'u ffyrdd creisi :(

Re: Trafaelu ar y Trên Glas

PostioPostiwyd: Mer 21 Mai 2008 10:12 pm
gan Seonaidh/Sioni
:gwyrdd: - wel, ble mae Mr. Glas...

Na, dw i ddim yn credu mai ffordd arall am ddeud "Dwisho trip ar LSD" ydy "Trafaelu ar y Tren Glas". Os cofia i'n iawn, "The Blue Train" ydy tren enwog yn Ne Affrica sy'n rhedeg rhwng Capetown a Johannesburg.

Ond mae na lot o drenau diddorol yn nes na hynny - "The Orient Express", "Yr Albannwr Hedegog", "Ceann-Cinnidh na Gàidhealtachd", "Rivyera Kernow", "Aurora Borealis", "The North Berwick Flyer",

Rwanta, ble rhoddais i fy anorak...

Re: Trafaelu ar y Trên Glas

PostioPostiwyd: Mer 21 Mai 2008 10:34 pm
gan sian
Sioe un-fenyw gan Sharon Morgan:

"Portread o gyfnod tymhestlog canol oed pan fydd rhaid i fenyw wynebu herio'i chorff a'i henaid tra'n ceisio ymrafael â dirgelion bywyd a marwolaeth.... Sut mae osgoi suddo o dan y don a diflannu o olwg y byd?"

Es i ddim. Cha i byth wybod.