ger4llt a ddywedodd:anffodus a ddywedodd:Fues i draw heddiw. Bys o fa'ma i Gynarfon ag o fanno i Landudno. Cal bys o fanno i faes y steddfod wedyn (i fod). Ond mi ddudodd y dreifar wrthan ni fynd off yn y lle rong so gafon ni'n gadal mewn lle odd prin allan o Landudno.
O'n i'n meddwl bo ni yn y lle iawn achos bod 'na Faes Carafanna wrth ymyl. Ond pan welon ni'r fflagia Lloegr uwchben y lle o'n i'n gwbod bod 'na wbath ddim yn iawn...
Cerddad tua milltir a hannar i Fae Penrhyn yng nghanol y glaw. Ar ol cyrradd dodd na ddim arwyddion "Eisteddfod" yn nunlla felly naethon ni holi'r plisman 'ma lle odd y maes a gynigiodd o lifft i ni a dyna'r unig reswm pam y cyrhaeddon ni'r Brif Fynedfa mewn car plisman. Coblyn o foi iawn (ond dim coblyn o'dd o. jyst plisman normal).
Wrthododd o roi'r seiren on 'fyd.
Gymrodd hi ddwyawr i ni. Byth, byth eto.
Bron yn gopi perffaith o be ddigwyddodd i mi heddiw - teithio ar y tren o Fangor i Gyffordd Llandudno, wedyn bwriadu teithio ar yr "imaginary shuttle service" i'r maes. Ddoth o fyth. Talu am dacsi (drud) i'r maes, ac wrth gwyno i'r Urdd gathan ni'r arian yna nôl.
Ond wedyn teithio o'r maes - staff y ganolfan groeso ddim help o gwbl am sut i gyrraedd unrhyw orsaf drenau a shiftio'r bai ar gyngor Conwy am y "gwasanaeth gwennol" - wedyn rhywun o gyngor Conwy (oedd yn llawar mwy o help) yn deud bydd yn rhaid cerdded lawr i Fae Penrhyn am y bws agosaf. Wedyn bws o fanna i Fae Colwyn, a tren nôl i fangor.
4:30 Gadal sdeddfod --> 7:15 Bangor A dwi'n goro mynd nol 'na fory.
"Hei Mistar Urdd, awn am dro ar hyd y ffyrdd" yn wir...