Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Llun 26 Mai 2008 3:13 pm

Pa brif seremoni mae cystadleuaeth y prif gyfansoddwr wedi cymryd ei lle? Hefyd (dwi 'di blogio am hyn 'fyd) be di'r lol 'ma am deilyngdod ma'r cyfryngis yn sbowtio? Onid ydi'r ymgeisydd gora' ym mhob cystadleuaeth yn 'sdeddfod yr Urdd yn cael y wobr gynta', ta fi sy' 'di camddalld?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan sian » Llun 26 Mai 2008 3:26 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Pa brif seremoni mae cystadleuaeth y prif gyfansoddwr wedi cymryd ei lle?


Seremoni'r Fedal Lenyddiaeth oedd arfer bod ar ddydd Llun - sef cyfrol o lenyddiaeth - barddoniaeth a/neu ryddiaeth ar destun agored dwi'n meddwl.
Maen nhw wedi stopio rhoi honno.

Tegwared ap Seion a ddywedodd:Hefyd (dwi 'di blogio am hyn 'fyd) be di'r lol 'ma am deilyngdod ma'r cyfryngis yn sbowtio? Onid ydi'r ymgeisydd gora' ym mhob cystadleuaeth yn 'sdeddfod yr Urdd yn cael y wobr gynta', ta fi sy' 'di camddalld?


Mi fysen nhw'n gallu atal y wobr am wn i - dw i ddim yn cofio hynny'n digwydd ar y prif wobrau llenyddol yn yr Urdd chwaith - mae'n digwydd reit aml ar y mân gystadlaethau. Os wyt ti'n sôn am gystadlaethau llwyfan - wel, mae'r rheiny wedi mynd trwy'r Cylch a'r Sir a'r rhagbrawf, felly maen nhw'n siwr o fod yn cyrraedd rhyw safon.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 28 Mai 2008 7:43 am

Welodd rhywun gyflwyniad 'Steddfod yr Urdd Bae Caerdydd 2009 gan Aelwyd yr Ynys? (ai diclêr an untrest), ond joies i mas draw! Yn enwedig yr acenion Pobol y Cwm :lol: :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Mer 28 Mai 2008 1:44 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd: Hefyd (dwi 'di blogio am hyn 'fyd) be di'r lol 'ma am deilyngdod ma'r cyfryngis yn sbowtio? Onid ydi'r ymgeisydd gora' ym mhob cystadleuaeth yn 'sdeddfod yr Urdd yn cael y wobr gynta', ta fi sy' 'di camddalld?


Yn ôl y gŵr oedd yn arwain defod y Fedal Drama 'pnawn 'ma - mae'r fedal wedi ei hatal dwywaith yn y gorffennol. Felly fe ymddengys mai'r ateb i dy gwestiwn yw bod modd atal prif wobrau'r Urdd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan anffodus » Mer 28 Mai 2008 5:21 pm

Fues i draw heddiw. Bys o fa'ma i Gynarfon ag o fanno i Landudno. Cal bys o fanno i faes y steddfod wedyn (i fod). Ond mi ddudodd y dreifar wrthan ni fynd off yn y lle rong so gafon ni'n gadal mewn lle odd prin allan o Landudno.

O'n i'n meddwl bo ni yn y lle iawn achos bod 'na Faes Carafanna wrth ymyl. Ond pan welon ni'r fflagia Lloegr uwchben y lle o'n i'n gwbod bod 'na wbath ddim yn iawn...

Cerddad tua milltir a hannar i Fae Penrhyn yng nghanol y glaw. Ar ol cyrradd dodd na ddim arwyddion "Eisteddfod" yn nunlla felly naethon ni holi'r plisman 'ma lle odd y maes a gynigiodd o lifft i ni a dyna'r unig reswm pam y cyrhaeddon ni'r Brif Fynedfa mewn car plisman. Coblyn o foi iawn (ond dim coblyn o'dd o. jyst plisman normal).
Wrthododd o roi'r seiren on 'fyd.

Gymrodd hi ddwyawr i ni. Byth, byth eto.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan ger4llt » Mer 28 Mai 2008 7:30 pm

Unryw syniad pa rai di'r gwasanaetha gwennol? Neshi anfon e-bost i rywun o'r Urdd a natha nhw ddeud wbath am bob 20 munud o Gyffordd Llandudno a bob 10 munud o du blaen M&S...ond heb ddeud os mai gwasanaethau shytl oddyn nhw. :rolio: Felly dodd nw'm llawar o help. :?
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan Tegwared ap Seion » Mer 28 Mai 2008 9:49 pm

pa mor bell 'di'r maes carafanau o'r maes? O fewn pellter cerdded?
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 29 Mai 2008 12:34 am

ger4llt a ddywedodd:Unryw syniad pa rai di'r gwasanaetha gwennol? Neshi anfon e-bost i rywun o'r Urdd a natha nhw ddeud wbath am bob 20 munud o Gyffordd Llandudno a bob 10 munud o du blaen M&S...ond heb ddeud os mai gwasanaethau shytl oddyn nhw. :rolio: Felly dodd nw'm llawar o help. :?


Bws rhif 12 o du allan M&S

Tegwared ap Seion a ddywedodd:pa mor bell 'di'r maes carafanau o'r maes? O fewn pellter cerdded?


Mae'r maes carafanau yn y cae drws nesa i faes yr eisteddfod. Llai na chanllath rhwng y brif fynedfa a'r carafan cyntaf yn y cae.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan huwwaters » Iau 29 Mai 2008 1:10 am

Hen Rech Flin a ddywedodd:
ger4llt a ddywedodd:Unryw syniad pa rai di'r gwasanaetha gwennol? Neshi anfon e-bost i rywun o'r Urdd a natha nhw ddeud wbath am bob 20 munud o Gyffordd Llandudno a bob 10 munud o du blaen M&S...ond heb ddeud os mai gwasanaethau shytl oddyn nhw. :rolio: Felly dodd nw'm llawar o help. :?


Bws rhif 12 o du allan M&S


Ydyn nhw di newid llwybr y bws? Mae o fel arfer yn mynd trwy ganol Bae Penrhyn o Landudno, wedyn yn syth a heibio'r coleg. Ydio'r troi ffwrdd lawr ffordd Llanrhos?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan ger4llt » Iau 29 Mai 2008 6:46 pm

anffodus a ddywedodd:Fues i draw heddiw. Bys o fa'ma i Gynarfon ag o fanno i Landudno. Cal bys o fanno i faes y steddfod wedyn (i fod). Ond mi ddudodd y dreifar wrthan ni fynd off yn y lle rong so gafon ni'n gadal mewn lle odd prin allan o Landudno.

O'n i'n meddwl bo ni yn y lle iawn achos bod 'na Faes Carafanna wrth ymyl. Ond pan welon ni'r fflagia Lloegr uwchben y lle o'n i'n gwbod bod 'na wbath ddim yn iawn...

Cerddad tua milltir a hannar i Fae Penrhyn yng nghanol y glaw. Ar ol cyrradd dodd na ddim arwyddion "Eisteddfod" yn nunlla felly naethon ni holi'r plisman 'ma lle odd y maes a gynigiodd o lifft i ni a dyna'r unig reswm pam y cyrhaeddon ni'r Brif Fynedfa mewn car plisman. Coblyn o foi iawn (ond dim coblyn o'dd o. jyst plisman normal).
Wrthododd o roi'r seiren on 'fyd.

Gymrodd hi ddwyawr i ni. Byth, byth eto.


Bron yn gopi perffaith o be ddigwyddodd i mi heddiw - teithio ar y tren o Fangor i Gyffordd Llandudno, wedyn bwriadu teithio ar yr "imaginary shuttle service" i'r maes. Ddoth o fyth. Talu am dacsi (drud) i'r maes, ac wrth gwyno i'r Urdd gathan ni'r arian yna nôl. :P

Ond wedyn teithio o'r maes - staff y ganolfan groeso ddim help o gwbl am sut i gyrraedd unrhyw orsaf drenau a shiftio'r bai ar gyngor Conwy am y "gwasanaeth gwennol" - wedyn rhywun o gyngor Conwy (oedd yn llawar mwy o help) yn deud bydd yn rhaid cerdded lawr i Fae Penrhyn am y bws agosaf. Wedyn bws o fanna i Fae Colwyn, a tren nôl i fangor.

4:30 Gadal sdeddfod --> 7:15 Bangor :rolio: A dwi'n goro mynd nol 'na fory. :drwg:
cym anadl ddofn o'r golygfaeydd gwboi :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Nesaf

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron