Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Unrhyw beth "diwylliannol" arall

Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd

Re: Eisteddfod yr Urdd 2008: Sir Conwy

Postiogan ffwrchamotobeics » Gwe 30 Mai 2008 9:36 am

ger4llt a ddywedodd:
anffodus a ddywedodd:Fues i draw heddiw. Bys o fa'ma i Gynarfon ag o fanno i Landudno. Cal bys o fanno i faes y steddfod wedyn (i fod). Ond mi ddudodd y dreifar wrthan ni fynd off yn y lle rong so gafon ni'n gadal mewn lle odd prin allan o Landudno.

O'n i'n meddwl bo ni yn y lle iawn achos bod 'na Faes Carafanna wrth ymyl. Ond pan welon ni'r fflagia Lloegr uwchben y lle o'n i'n gwbod bod 'na wbath ddim yn iawn...

Cerddad tua milltir a hannar i Fae Penrhyn yng nghanol y glaw. Ar ol cyrradd dodd na ddim arwyddion "Eisteddfod" yn nunlla felly naethon ni holi'r plisman 'ma lle odd y maes a gynigiodd o lifft i ni a dyna'r unig reswm pam y cyrhaeddon ni'r Brif Fynedfa mewn car plisman. Coblyn o foi iawn (ond dim coblyn o'dd o. jyst plisman normal).
Wrthododd o roi'r seiren on 'fyd.

Gymrodd hi ddwyawr i ni. Byth, byth eto.


Bron yn gopi perffaith o be ddigwyddodd i mi heddiw - teithio ar y tren o Fangor i Gyffordd Llandudno, wedyn bwriadu teithio ar yr "imaginary shuttle service" i'r maes. Ddoth o fyth. Talu am dacsi (drud) i'r maes, ac wrth gwyno i'r Urdd gathan ni'r arian yna nôl. :P

Ond wedyn teithio o'r maes - staff y ganolfan groeso ddim help o gwbl am sut i gyrraedd unrhyw orsaf drenau a shiftio'r bai ar gyngor Conwy am y "gwasanaeth gwennol" - wedyn rhywun o gyngor Conwy (oedd yn llawar mwy o help) yn deud bydd yn rhaid cerdded lawr i Fae Penrhyn am y bws agosaf. Wedyn bws o fanna i Fae Colwyn, a tren nôl i fangor.

4:30 Gadal sdeddfod --> 7:15 Bangor :rolio: A dwi'n goro mynd nol 'na fory. :drwg:


"Hei Mistar Urdd, awn am dro ar hyd y ffyrdd" yn wir...
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Nôl

Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron