Cymedrolwr: Tracsiwt Gwyrdd
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Pa brif seremoni mae cystadleuaeth y prif gyfansoddwr wedi cymryd ei lle?
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Hefyd (dwi 'di blogio am hyn 'fyd) be di'r lol 'ma am deilyngdod ma'r cyfryngis yn sbowtio? Onid ydi'r ymgeisydd gora' ym mhob cystadleuaeth yn 'sdeddfod yr Urdd yn cael y wobr gynta', ta fi sy' 'di camddalld?
Tegwared ap Seion a ddywedodd: Hefyd (dwi 'di blogio am hyn 'fyd) be di'r lol 'ma am deilyngdod ma'r cyfryngis yn sbowtio? Onid ydi'r ymgeisydd gora' ym mhob cystadleuaeth yn 'sdeddfod yr Urdd yn cael y wobr gynta', ta fi sy' 'di camddalld?
ger4llt a ddywedodd:Unryw syniad pa rai di'r gwasanaetha gwennol? Neshi anfon e-bost i rywun o'r Urdd a natha nhw ddeud wbath am bob 20 munud o Gyffordd Llandudno a bob 10 munud o du blaen M&S...ond heb ddeud os mai gwasanaethau shytl oddyn nhw. Felly dodd nw'm llawar o help.
Tegwared ap Seion a ddywedodd:pa mor bell 'di'r maes carafanau o'r maes? O fewn pellter cerdded?
Hen Rech Flin a ddywedodd:ger4llt a ddywedodd:Unryw syniad pa rai di'r gwasanaetha gwennol? Neshi anfon e-bost i rywun o'r Urdd a natha nhw ddeud wbath am bob 20 munud o Gyffordd Llandudno a bob 10 munud o du blaen M&S...ond heb ddeud os mai gwasanaethau shytl oddyn nhw. Felly dodd nw'm llawar o help.
Bws rhif 12 o du allan M&S
anffodus a ddywedodd:Fues i draw heddiw. Bys o fa'ma i Gynarfon ag o fanno i Landudno. Cal bys o fanno i faes y steddfod wedyn (i fod). Ond mi ddudodd y dreifar wrthan ni fynd off yn y lle rong so gafon ni'n gadal mewn lle odd prin allan o Landudno.
O'n i'n meddwl bo ni yn y lle iawn achos bod 'na Faes Carafanna wrth ymyl. Ond pan welon ni'r fflagia Lloegr uwchben y lle o'n i'n gwbod bod 'na wbath ddim yn iawn...
Cerddad tua milltir a hannar i Fae Penrhyn yng nghanol y glaw. Ar ol cyrradd dodd na ddim arwyddion "Eisteddfod" yn nunlla felly naethon ni holi'r plisman 'ma lle odd y maes a gynigiodd o lifft i ni a dyna'r unig reswm pam y cyrhaeddon ni'r Brif Fynedfa mewn car plisman. Coblyn o foi iawn (ond dim coblyn o'dd o. jyst plisman normal).
Wrthododd o roi'r seiren on 'fyd.
Gymrodd hi ddwyawr i ni. Byth, byth eto.
Dychwelyd i Cell gymysg ddiwylliannol
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai