Idris83 a ddywedodd:Mae;r ffaith bod Ray yn gorfod erfyn ar bobol i gyfrannu yn sad yn ei hun.
Wel coc y gath, methes i'r sylw coc 'ma. Y peth gore dwi di neud fel golygydd yw erfyn am gyfraniade - y rheswm 'ma dim lol leni'n gwd show yw achos bo fi, ar ol tair blynedd o erfyn, wedi cal cyfraniade amrywiol gan nifer fawr o wahanol bobol sy'n neud i fi chwerthin. Ma'r pethe sy'n cal clod arbennig uchod oll wedi cal 'u sgwennu gan bobol gwahanol - 'na pam ma fe'n llwyddiant 'chan! A dim jyst cyfraniade, ond syniade a pytie bach hefyd. Os oes rhaid i fi hwrio'n hunan ar faes-e i gal nhw, dyna wnai... a jolch yn fawr i chi gyd.
DWi jyst ddim yn deall pam bod Ray yn derbyn diolch am be mae o'n wneud.Be wyt ti'n neud heblaw am ofyn am storis pobol a sgwennu nhw a rhoi "pwrs" a "jiawch" "jiawled" mewn brawddeg a bod yn flin os na di rhywun yn licio dy fagasîn cachu wanc di.
Ti di camddeall - wy'n cal mwy o bleser mas o weld pobol sy' ddim yn licio fe 'chan! A ma angen 'gog alert' go iawn ar dy ail frawddeg di, ma ishe i rai gogs ddeall nad eich acen chi yw'r default setting Cymraeg. *diwedd y gog rant* A tha beth, odd 'na elfen gog swmpus leni i gadw chi'n hapus...
O ran pam ydwi'n derbyn diolch... dwi'n aelod o'r Mark Ronson School of Thought, sy'n galluogi ni i neud ffyc ol a derbyn y clod i gyd yn pen draw. Joio. Ond o ddifri - pwy fydde'n cymrd y shit i gyd se fe'n crap? Manaman i fi joio'r ffaith bo fi di neud rhwbeth yn iawn am unwaith, ife!