Y tlawd hwn a ddywedodd:Idris83 a ddywedodd:Naci - heb gael mensh siwr - dyna be sy de!
Mae'n rhaid bo chi'n keen arno fo - mae yna ddau edefyn am dano fo!
Dwi'n gallu gweld o'r dyfyniad uchod mai gog wyt ti
(ddim bod dim byd yn bod â gogs - dwi'n priodi un) .. "naci" "de" "fo" "dano fo" ayyb sy'n gweud wrtha i nad wyt ti'n siarad yr un iaith â'n barchus Ray, ac felly dyna'r rheswm dros iti beidio â chytuno 'da barn y mwyafrif o'r edefyn hwn? Ma ychwanegu geirie fel 'pwrs' a 'jiawled' yn rhan o arddull ni bois y Canolbarth...
Paid a malu cachu! Dydy hynna ddim yn neud o'n ddoniol nadi!
Dwi ddim yn meddwl bod cynnwys Dim Lol yn werth £3 ac yn ddoniol. Dyna ni. Does dim angen edrych i mewn i'r peth yn ddyfn. Mae gen i hawl i beidio licio fo a'i werthfawrogi o.
A'r peth mwya diflas oedd colofn Hogyn o Rachub (sori HOR - ond mi oedd o yn fy marn i, credaf, yn bersonol).
O 'ma hi, dwi di gwneud hi wan do!