Tudalen 5 o 9

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 5:03 pm
gan Doctor Sanchez
Idris83 a ddywedodd:Yr un hen crap arferol ddarllenais i. Mae;r ffaith bod Ray yn gorfod erfyn ar bobol i gyfrannu yn sad yn ei hun. Dim "Lol" mohono o gwbwl - rhywbeth doniol a sytyl go iawn oedd hwnnw!


Pa run di Idris83 ta Rhodri Glyn Thomas ta Alun Ffred? :lol:

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 5:24 pm
gan Idris83
Ie, mae gen ti bwynt Doctor Sanchez.

DWi jyst ddim yn deall pam bod Ray yn derbyn diolch am be mae o'n wneud.Be wyt ti'n neud heblaw am ofyn am storis pobol a sgwennu nhw a rhoi "pwrs" a "jiawch" "jiawled" mewn brawddeg a bod yn flin os na di rhywun yn licio dy fagasîn cachu wanc di. Ac am £3 yr un?! Ond pwy dwi i i ddeud de, yn amlwg mod i'n hen a finne'n 25. Wyddwn i ddim mai comic i ysgol feithrin oedd o i fod.

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 5:59 pm
gan 7ennyn
Be sy' Idris? Wedi cael mensh ynddo fo wyt ti?

Re: dimLol

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 6:09 pm
gan dafyddpritch
Yr un am ymweliad Rhydian Bowen Phillips ag Amsterdam odd yr highlight - hidden gem yn y cefn!!

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Mer 13 Awst 2008 6:45 pm
gan Idris83
Naci - heb gael mensh siwr - dyna be sy de!
Mae'n rhaid bo chi'n keen arno fo - mae yna ddau edefyn am dano fo!

Re: dimLol

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 7:48 am
gan Gorwel Roberts
biti nad yw'n bosib cael rwbath tebyg yn amlach, bob chwarter o bosib, ond dwi'n deall byddai hynny'n anodd iawn

Re: dimLol

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 9:42 am
gan Rhodri Nwdls
Rhifyn 'dolig ar gyfer hosan y plant. DimLOL, chwip din a syth i gwely heb dwrci tra bod yn Dad yn meddwi'n dwll ar sloe gin o flaen y tan.

Erthygl Iolo yn Ffocin bobman nath i fi chwerthin yn afreolus. Yn arbennig y termau lladin. Oedd yr un 20-1 Dylan Iorwerth yn good value 'fyd. :lol:

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 11:27 am
gan Y tlawd hwn
Idris83 a ddywedodd:Naci - heb gael mensh siwr - dyna be sy de!
Mae'n rhaid bo chi'n keen arno fo - mae yna ddau edefyn am dano fo!


Dwi'n gallu gweld o'r dyfyniad uchod mai gog wyt ti (ddim bod dim byd yn bod â gogs - dwi'n priodi un) .. "naci" "de" "fo" "dano fo" ayyb sy'n gweud wrtha i nad wyt ti'n siarad yr un iaith â'n barchus Ray, ac felly dyna'r rheswm dros iti beidio â chytuno 'da barn y mwyafrif o'r edefyn hwn? Ma ychwanegu geirie fel 'pwrs' a 'jiawled' yn rhan o arddull ni bois y Canolbarth...

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 1:25 pm
gan Idris83
Y tlawd hwn a ddywedodd:
Idris83 a ddywedodd:Naci - heb gael mensh siwr - dyna be sy de!
Mae'n rhaid bo chi'n keen arno fo - mae yna ddau edefyn am dano fo!


Dwi'n gallu gweld o'r dyfyniad uchod mai gog wyt ti (ddim bod dim byd yn bod â gogs - dwi'n priodi un) .. "naci" "de" "fo" "dano fo" ayyb sy'n gweud wrtha i nad wyt ti'n siarad yr un iaith â'n barchus Ray, ac felly dyna'r rheswm dros iti beidio â chytuno 'da barn y mwyafrif o'r edefyn hwn? Ma ychwanegu geirie fel 'pwrs' a 'jiawled' yn rhan o arddull ni bois y Canolbarth...


Paid a malu cachu! Dydy hynna ddim yn neud o'n ddoniol nadi!

Dwi ddim yn meddwl bod cynnwys Dim Lol yn werth £3 ac yn ddoniol. Dyna ni. Does dim angen edrych i mewn i'r peth yn ddyfn. Mae gen i hawl i beidio licio fo a'i werthfawrogi o.

A'r peth mwya diflas oedd colofn Hogyn o Rachub (sori HOR - ond mi oedd o yn fy marn i, credaf, yn bersonol).

O 'ma hi, dwi di gwneud hi wan do!

Re: dIM LOL 08

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2008 2:27 pm
gan Griff-Waunfach
Idris83 a ddywedodd:Yr un hen crap arferol ddarllenais i. Mae;r ffaith bod Ray yn gorfod erfyn ar bobol i gyfrannu yn sad yn ei hun. Dim "Lol" mohono o gwbwl - rhywbeth doniol a sytyl go iawn oedd hwnnw!


Pam ar ddaear brynes di fe de? Dysga o dy camgymeradau.


Gyda llaw fe wnes i mwynhau darllen e!